Ffrwgwd torfol: 'Gallai atal llacio'r cyfyngiadau'

Disgrifiad o'r llun, Torfeydd ar draeth Aberogwr nos Iau

Mae Prif Weinidog Cymru wedi rhybuddio efallai y bydd rhaid gohirio llacio cyfyngiadau coronafeirws os fydd pobl yn parhau i ymgasglu mewn niferoedd mawr mewn mannau cyhoeddus.

Roedd Mark Drakeford yn ymateb wedi i sawl fideo ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol o ffrwgwd torfol ar draeth ym Mro Morgannwg.

Mae'r fideos yn dangos torfeydd mawr yn Aberogwr ac, erbyn 20:00 nos Iau, ambell wrthdaro treisgar.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Dywed Heddlu De Cymru fod dau ddyn yn eu 20au wedi cael eu dal gan swyddogion, ac yn ôl tystion fe gafodd o leiaf un person anaf.

Ysgrifennodd Mr Drakeford ar ei gyfrif Twitter fore Gwener: "Ni fyddwn yn gallu parhau i lacio cyfyngiadau os yw olygfeydd fel y rhai a welwyd neithiwr yn parhau.

"Maent yn bygwth iechyd pobl Cymru, ac yn tanseilio'r aberth mae'r mwyafrif o bobl wedi eu gwneud yn ystod y pandemig hwn."

Ffynhonnell y llun, Daniel Reddington

Disgrifiad o'r llun, Cafodd cryn lanast ei adael ar y traeth a'r maes parcio

Mae'n anghyfreithlon ar hyn o bryd i ymgasglu mewn grwpiau mawr yng Nghymru, oherwydd y cyfyngiadau i atal lledaeniad coronafeirws, ac mae disgwyl i bobl ddilyn y rheolau pellter cymdeithasol.

Ond nos Iau bu'n rhaid i'r heddlu, yr awdurdod lleol a'r RNLI ymateb wedi i gannoedd o bobl fynd i'r traeth wedi diwrnod o dywydd eithriadol braf.

Apeliodd yr heddlu ar y cyfryngau cymdeithasol i rieni "wirio ble mae eich plant" nos Iau wedi adroddiadau fod "niferoedd mawr o bobl ifanc" yn cwrdd ar yr arfordir.

Fe ddychwelodd nifer o bobl i'r traeth oriau wedi i'r heddlu wasgaru'r dorf.

Disgrifiad o'r llun, Alun Cairns, Aelod Seneddol Bro Morgannwg, yn cwrdd gyda thrigolion Aberogwr ddydd Gwener

Dywed y llu eu bod "yn ymwybodol o fideos ar y cyfryngau cymdeithasol".

Wrth gadarnhau eu bod yn ymchwilio i'r achos ac yn apelio am wybodaeth a lluniau, dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Tom Moore fod "y golygfeydd yn Aberogwr yn hollol annerbyniol".

Ychwanegodd: "Rydym yn credu fod nifer fawr o lanciau wedi teithio i'r ardal o wahanol rannau o dde Cymru i fod yn rhan o anhrefn ddifrifol, treisgar."

'Gwaethygu ers dyddiau'

Roedd y sefyllfa wedi bod yn gwaethygu o ddydd i ddydd ers rai dyddiau, yn ôl un o drigolion Aberogwr, sy'n dymuno aros yn ddi-enw.

"Heno, fwya' tebyg, roedd yna gannoedd yn yfed ers yn gynnar yn y noson," meddai. "Dechreuodd yr ymladd tua 20:20, ond fedra'i ddim dweud pam yn union wnaeth e ddechrau."

Disgrifiad o'r llun, Roedd y ffordd i'r traeth ar gau ddydd Gwener

Yn ôl Sue Francombe, roedd nifer cynyddol o bobl ifanc yn ymgynnull ar y traeth gydol y dydd a bod y sefyllfa'n "gyflafan lwyr" wedi i'r ffrwgwd gychwyn wedi 20:30.

"Ro'n i methu credu beth roedd yn digwydd," meddai. "Rydw i wedi bod yma am 16 o flynyddoedd a dydyn ni erioed wedi cael dim byd tebyg o'r blaen, Rwy'n grac iawn ac yn upset."

Ffynhonnell y llun, Daniel Reddington

Disgrifiad o'r llun, Mae pobl wedi bod yn helpu clirio'r llanast ers ben bore Gwener

Mae'r RNLI ym Mhorthcawl wedi cadarnhau eu bod wedi eu galw i ddigwyddiad nos Iau a "helpu 45 o bobl oedd wedi'u caethiwo gan y llanw wrth geg yr afon wedi i'r llanw droi".

Dywedodd Heddlu'r De fod swyddogion wedi gwasgaru niferoedd mawr o bobl ar y traeth tua 20:00 nos Iau, a bod y cyngor sir wedi gorfod cau'r maes parcio.

Ond bu'n rhaid i swyddogion heddlu ddychwelyd i'r traeth am 22:50 wedi i rai o'r bobl ddychwelyd.

Dywed datganiad y llu fod tystion yn honni fod rhywun wedi cael anaf, ond hyd yma dydyn nhw heb gael gwybodaeth ynghylch unrhyw ddioddefwyr.

Siom Comisiynydd Heddlu

Wrth siarad ar Â鶹ԼÅÄ Radio Wales fore Gwener, fe alwodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru ar bobl i ddefnyddio'u synnwyr cyffredin, ac i stopio rhannu gwybodaeth anghywir ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mynegodd Alun Michael siom hefyd fod "negeseuon dryslyd" yn Lloegr yn tanseilio'r cyngor yng Nghymru "na all fod yn fwy clir" fod angen i bobl barhau i gymryd pwyll.

"Mae pobl yn dal yn marw o Covid-19 ac mae'n glir fod rhai pobl, o'r ymddygiad y gwelwn ni yn y golygfeydd yma, yn ymddangos fel eu bod yn anwybyddu'n llwyr y risg i iechyd y cyhoedd," dywedodd.

"Ychydig wythnosau'n ôl roedd yna gyferbyniad rhwng traethau de Cymru, oedd yn wag oherwydd roedd pobl yn dilyn y rheolau, a de Lloegr ble roedd negeseuon dryslyd yn golygu fod torfeydd wedi dechrau ymgasglu.

"Yr hyn rydyn yn gweld nawr yw bod twpdra heintus wedi dechrau gwreiddio yn ein hardal ni.

"Mae negeseuon Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau lleol a'r heddlu yn gwneud hi'n hollol glir fod peidio dilyn y rheolau pellter cymdeithasol yn rhoi pawb mewn perygl."