Â鶹ԼÅÄ

158 o weithwyr 2 Sisters ar Ynys Môn wedi'u heintio

  • Cyhoeddwyd
2 SistersFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae 2 Sisters yn un o gynhyrchwyr cig ieir mwyaf y DU

Mae nifer y gweithwyr sydd wedi'u heintio â coronafeirws mewn ffatri ieir ar Ynys Môn wedi cynyddu i 158.

Mae holl staff safle prosesu cig 2 sisters yn Llangefni yn hunan-ynysu wedi i nifer o weithwyr gael cadarnhad ddydd Iau bod y feirws arnyn nhw.

Ddydd Sul daeth cadarnhad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bod nifer y gweithwyr sydd â'r feirws wedi cynyddu i 158.

Mae swyddogion iechyd yn disgwyl i'r nifer gynyddu eto.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ystyried y posibilrwydd y gallai mesurau lleol gael eu cyflwyno ar Ynys Môn er mwyn ceisio atal yr haint rhag lledu ymhellach.

Yn ôl Dr Christopher Johnson, o Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 400 o'r gweithwyr wedi cael eu profi ers i'r haint ymddangos yno.

"Ers 15:00 ar ddydd Sul 21 Mehefin, ry'n ni wedi cofnodi cynnydd o 83 achos positif dros y 24 awr diwethaf," dywedodd.

"Bydd y gwaith o brofi gweithwyr yn parhau, ac mae disgwyl y bydd achosion ychwanegol yn dod i'r amlwg dros y dyddiau nesaf.

"Mae'r cynnydd yn nifer yr achosion yn unol a'r yn roedden ni yn ei ddisgwyl pan gyflwynon ni gynllun tracio ac olrhain. Dydi o ddim yn golygu bod ymlediad yr haint yn cynyddu.

Cafodd safleoedd profi eu sefydlu yn Llangefni ac yng Nghaergybi, ac mewn safle oedd eisoes mewn defnydd ym Mangor, wedi i'r haint ddod i'r amlwg."

Cyfyngiadau lleol ar Ynys Môn?

Wrth siarad ar raglen Politics Show Â鶹ԼÅÄ Cymru ddydd Sul dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates ei bod hi'n hanfodol fod yr haint yn 'cael ei gadw mor lleol ag sy'n bosibl.'

Fe wrthododd Mr Skates ddiystyru'r posibilrwydd o gadw cyfyngiadau cymdeithasol ar Ynys Môn, a dywedodd bod y cyngor, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gywir i geisio "sicrhau bod twf y feirws yn cael ei gadw mor lleol ag sy'n bosib."

Dywedodd y byddai mesurau o'r fath yn atal y feirws rhag lledu ac yn sicrhau y gall Ynys Môn ailagor ei economi yn gynt.

Pryder mawr ar Ynys Môn

Wrth ymateb i'r cynnydd yn y niferoedd, dywedodd arweinydd cyngor Ynys Môn, Llinos Medi, bod ymlediad yr haint yn 'achos pryder ar Ynys Môn,' ond nid yn gwbl annisgwyl.

"Oddan ni'n disgwyl gweld niferoedd uchal. O'n i'n gwbod bod y gweithlu i gyd yn mynd i gael eu brofi, ac o'ddan ni'n disgwyl gweld hyn oherwydd amodau'r ffatri," meddai,

"'Dan ni wedi gweld beth sydd wedi digwydd mewn llefydd tebyg ar draws y byd. Ma'r feirws yn lledu ynghynt mewn lleoedd fel hyn."

Mae'n dweud bod mwyafrif llethol y gweithwyr wedi cael prawf yn barod ond bod 'na bosibilrwydd nad yw pob aelod o staff 2 sisters wedi cael y neges eto. Dywedodd ei bod yn erfyn ar bob un i wrando ar y cyngor meddygol,

"Plîs, Mae'n bwysig eich bod chi'n cael eich profi," meddai.

"Mae hyn yn holl bwysig er mwyn atal lledaeniad yr haint a rhagor o achosion positif o fewn ein cymunedau."

Lles pobl a'r economi 'yn bwysig'

Fe gadarnhaodd yr arweinydd bod Cyngor Môn yn trafod y posibilrwydd o gyflwyno cyfyngiadau lleol ar yr ynys, ond bod rhaid ystyried economi'r wlad hefyd.

Dywedodd y bydd siopau yn ailagor ar Mehefin 22 a bod disgwyl i bawb lynu wrth y canllawiau,

"Mae busnesau yn agor fory. Do's 'na ddim rheswm nad ydi'r busnesau yn agor mond bod pawb yn dilyn y rheolau."

Mae Cyngor Môn eisoes wedi cadarnhau na fydd ysgolion yr ynys yn ailagor ar 29 Gorffennaf oherwydd amgylchiadau'r ffatri.

Gwaith cynhyrchu ar stop

Mae pob un o'r 560 o weithwyr wedi cael cais i hunan-ynysu am 14 diwrnod ac wedi cael cais i gael prawf.

2 Sisters yw un o'r proseswyr bwyd mwyaf yn y DU gan brosesu tua traean o'r holl gynnyrch dofednod sy'n cael ei fwyta ym Mhrydain.

Mae'r gwaith cynhyrchu wedi dod i ben dros dro wrth i'r ffatri gau am gyfnod amhenodol. Mae hyn wedi effeithio ar gyflenwadau i awdurdodau lleol, ysbytai, bwytai a busnesau bychain.

Ydi cyw iâr yn ddiogel?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Asiantaeth Safonau wedi dweud nad oes rheswm i ofni bwyta cig ieir

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn pwysleisio nad oes perygl y gallai Covid-19 ledu drwy'r gadwyn fwyd, "Er mwyn bod yn gwbl eglur, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn dweud ei bod hi'n annhebygol iawn y gallwch chi ddal coronafeirws o fwyd. Mae Covid-19 yn salwch sy'n effeithio ar y system anadlu. Does dim gwybodaeth i awgrymu ei fod yn cael ei drosglwyddo mewn bwyd nac ar becynnau bwyd."