Cymru 'wedi methu sicrhau cydraddoldeb hil'

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Mae'r adroddiad yn dweud bod Covid-19 wedi amlygu bod 'na hiliaeth hir-dymor yng Nghymru

Mae pandemig coronafeirws yn datgelu beth sy'n digwydd o ganlyniadau i ddiffyg gweithredu am gydraddoldeb hil.

Dyna mae grŵp ymgynghorol ar effaith Covid-19 ar gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru (BAME) yn ei ddweud.

Yn ôl yr Athro Emmanuel Ogbonna mae nifer o'r materion godwyd yn adroddiad y grŵp wedi cael eu codi yn y gorffennol, ond "heb gael eu gweithredu arnyn nhw".

Mae'r adroddiad yn pwysleisio bod materion fel gorboblogi, ansicrwydd incwm a hiliaeth strwythurol a systemig wedi cael effaith anghyfartal ar gymunedau BAME Cymru.

Mae dynion a menywod du bron ddwywaith yn fwy tebygol o farw ar ôl cael eu heintio gyda coronafeirws na phobl wyn yng Nghymru a Lloegr, yn ôl swyddfa ystadegau'r ONS.

Mae data Canolfan Ymchwil ac archwilio y gwasanaeth gofal dwys cenedlaethol (ICNARC) yn awgrymu bod 34% o'r cleifion gofal dwys yng Nghymru a Lloegr o gefndiroedd BAME.

Disgrifiad o'r fideo, 'Pobl ddim am gydnabod bod hiliaeth yn digwydd yn ein cymunedau ni'

Ym mis Ebrill, wedi cyhoeddiad llywodraeth y DU am adolygiad o effaith Covid-19 ar bobl BAME, fe ddywedodd Cymdeithas Brydeinig y Meddygon o dras Indiaidd, (BAPIO) y dylai Llywodraeth Cymru gynnal ymchwiliad penodol.

Pan gafodd e'i holi ar y pryd, fe ddywedodd y Prif Weinidog nad oedd e'n fater i Gymru yn unig, ond i Brydain gyfan.

Dywedodd ei fod yn awyddus i gyd-weithio â rhannau eraill o'r wlad er mwyn sicrhau atebion "gwell a chyflymach".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r argyfwng wedi codi cwestiynau pwysig am anghydraddoldebau strwythurol hirdymor ym Mhrydain, medd y Comisiwn

Ond, fe sefydlodd Llywodraeth Cymru ei grŵp ymgynghorol arbenigol ei hun i drafod effaith Covid-19 ar gymunedau BAME y wlad.

Cafodd y barnwr Ray Singh a Dr Heather Payne eu penodi yn gyd-gadeiryddion.

Mae is-grŵp o'r pwyllgor wedi ymchwilio i'r "risg parhaus i weithwyr iechyd ar y rheng-flaen" gan ddatblygu .

Argymhellion

Bydd adroddiad y pwyllgor ymgynghorol yn cael ei gyhoeddi ar 22 Mehefin, gan wneud 30 o argymhellion yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu o safbwynt y peryglon sosio-economaidd ac amgylcheddol canlynol:

  • Materion diwylliannol o safbwynt iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer cymunedau BAME;
  • Sicrwydd incwm a chyflogaeth;
  • Gorboblogi mewn cartrefi ac amgylchedd;
  • Baich ariannol sy'n cael ei greu oherwydd statws mudo;
  • Hiliaeth strwythurol a systemig ac anfantais.

"Yr un thema sy'n rhedeg drwy gydol ein hymchwil ar gyfer yr adroddiad hwn," medd Athro Ogbonna, darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, ac un o awduron yr adroddiad.

"Mae'n canolbwyntio ar hiliaeth hir-dymor ac anfantais diffyg cynrychiolaeth BAME o fewn y prosesau sy'n gwneud penderfyniadau.

"Mae'r pandemig coronafeirws, i raddau, yn datgelu goblygiadau diffyg gweithredu ar gyfartaledd hil.

"Mae llawer o'r materion ry'n ni wedi'u tanlinellu wedi cael eu trafod o'r blaen - ond does neb wedi gweithredu arnyn nhw mewn modd systematig a chynaliadwy," dywedodd.