Â鶹ԼÅÄ

Cynllun plannu coed Cymru yn 'amlwg yn siomedig'

  • Cyhoeddwyd
CoedwigFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Cymru ar ei hôl hi yn y gwaith o blannu coed i daclo newid hinsawdd o'i gymharu â gweddill y DU, yn ôl ystadegau swyddogol.

Plannwyd 80 hectar o goedwigoedd newydd yng Nghymru yn 2019/20, y ffigwr isaf ers 10 mlynedd.

Dywedodd arbenigwyr coedwigaeth wrth y Â鶹ԼÅÄ fod y ffigwr - sef 4% o darged Llywodraeth Cymru o 2,000 hectar y flwyddyn - yn "amlwg yn siomedig."

Dywedodd y llywodraeth ei bod yn cymryd camau sylweddol i gynyddu'r gorchudd coedwigoedd yma.

Ar draws y DU cafodd 13,460 hectar o goedwigoedd newydd eu creu yn 2019/20, yn ôl ffigyrau gan sefydliadau coedwigaeth sy'n derbyn cefnogaeth y llywodraeth.

O'u rhannu i wledydd unigol, mae'r ffigyrau'n dangos bod 10,860 hectar wedi eu plannu yn Yr Alban; 2,330 yn Lloegr, 200 yng Ngogledd Iwerddon ac 80 yng Nghymru.

Roedd dros 80% o'r planhigfeydd newydd wedi digwydd yn Yr Alban, ac roedd llywodraeth y wlad yn llawn canmoliaeth, er iddyn nhw fethu â chyrraedd eu targed blynyddol.

Yn y blynyddoedd diweddar mae gweinidogion Cymru wedi gwneud sawl ymgais i wella graddfeydd plannu coed yma, gan gynnwys lansio strategaeth goedwigaeth newydd yn 2018.

'Angen cefnogi ffermwyr a thirfeddiannwyr'

Mae Rory Francis o Goed Cadw (The Woodland Trust) yn cydnabod fod y ffigyrau'n siomedig.

"Ond beth sy'n bwysig rŵan, wrth gwrs, yw'r hyn sy'n digwydd yn y dyfodol," meddai.

"Chwarae teg, mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu cynlluniau uchelgeisiol yn ddiweddar i greu coedwig genedlaethol i Gymru a hefyd wedi dyblu maint yr arian sydd ar gael ar gyfer grantiau i greu coetir. Gobeithio y bydd y ddau beth yma'n gwneud gwahaniaeth."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Ychwanegodd bod y data yn tanlinellu'r angen am "bolisi defnydd tir sy'n darparu cysondeb tra'n cefnogi ffermwyr a thirfeddiannwyr i blannu coed yn y llefydd iawn."

"Er enghraifft mi allai ffermwyr, gyda'r gefnogaeth iawn, gyflawni hanner targedau gorchudd coed Cymru, trwy greu gwrychoedd a lleiniau coediog ar ffermydd, gan ddefnyddio llai na 4% o'u tir.

"Mae eisiau sicrhau fod ffermwyr yn gallu gwneud hyn heb gael eu cosbi yn ariannol."

'Talu am 1,500 hectar'

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai arian o Gynllun Datblygu Cefn Gwlad yn cael ei ddefnyddio i dalu am blannu coed dros y gaeaf.

Ychwanegodd y llefarydd bod y llywodraeth wedi talu am blannu 1,500 hectar o goed y llynedd mewn coedwigoedd sydd eisoes yn bodoli.

Yn ogystal â'r cynllun coedwig genedlaethol, dywedodd y llefarydd bod y gyllideb i ariannu coedwigoedd newydd wedi ei chynyddu i £8m, "all gyfrannu'n sylweddol at y 2,000 hectar o blannu newydd."