Â鶹ԼÅÄ

Rhagor o brotestiadau BLM mewn trefi yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa ar y Maes yng Nghaernarfon ddydd Sul

Mae rhagor o brotestiadau i gefnogi ymgyrch Black Lives Matter wedi eu cynnal yng Nghymru ddydd Sul.

Daw'r protestiadau mewn ymateb i ddigwyddiad ym Minnesota, UDA ar 25 Mai pan gafodd dyn du, George Floyd, ei ladd gan swyddog heddlu.

Mae'r farwolaeth wedi arwain at brotestiadau yn yr Unol Daleithiau, gyda gwrthdystiadau hefyd wedi'u cynnal yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Yng Nghaernarfon fe wnaeth 200 o bobl ymgynnull ar y Maes yng nghanol y dref i gymryd rhan mewn protest oedd wedi ei threfnu gan Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru.

Bwriad y trefnwyr oedd cynnal digwyddiad heddychlon er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r ffaith fod hiliaeth yn bodoli ymhob man.

Disgrifiad o’r llun,

Margaret Ogunbanwo a'i theulu yn y brotest ddydd Sul

Ymysg y dorf yng Nghaernarfon oedd teulu lleol o Benygroes oedd wedi dioddef achos o hiliaeth dros y penwythnos.

Roedd rhywun wedi peintio arwydd swastika ar ddrws garej y teulu.

Wrth annerch y dorf, disgrifiodd un aelod o'r teulu, Margaret Ogunbanwo, y profiad gan hefyd ddisgrifio'r gefnogaeth yr oedd y teulu wedi ei dderbyn yn lleol, cyn ag ar ôl y digwyddiad.

Roedd nifer o gyn-filwyr yn bresennol hefyd ger yr orymdaith, a'u bwriad meddai nhw oedd amddiffyn y gofeb ryfel ar y Maes rhag unrhyw fandaliaeth.

Aeth y brotest yn ei blaen yn heddychlon a didrafferth gyda'r rhai oedd yno yn cynnal wyth munud o dawelwch i gofio am farwolaeth George Floyd.

Cafodd gwrthdystiad arall Black Lives Matter ei gynnal ar draeth Aberafan ger Port Talbot hefyd ddydd Sul, ac fe fydd protest hefyd yn Sir Fynwy'n ddiweddarach yn y dydd.