Llai yn gofyn am help - fydd mwy yn marw o ddibyniaeth?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae canolfannau cymorth Prosiect Kaleidoscope wedi bod ar gau ers mis Mawrth

Mae un o elusennau mwyaf Cymru sy'n cynnig cymorth i bobl sy'n gaeth i alcohol neu gyffuriau wedi rhybuddio bydd mwy o farwolaethau yn sgil effeithiau'r pandemig coronafeirws.

Yn ôl Prosiect Kaleidoscope, mae cwymp o 57% yn y niferoedd sydd wedi dod atyn nhw am gymorth ers i'w canolfannau gau ddiwedd mis Mawrth.

Yn ôl arbenigwyr yn y maes, mae'r gostyngiad yn y defnydd o'r gwasanaethau cymorth yn bryder.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod gwasanaethau i gynnig triniaeth camddefnyddio sylweddau wedi "addasu'n gyflym yn ystod y pandemig."

"Y broblem gyda alcohol a chyffuriau ydy os nad ydych chi'n cael triniaeth yna mae'r problemau yn gwaethygu," meddai prif weithredwr yr elusen, Martin Blakebrough.

"Os nad ydan ni'n ofalus, mi fydd mwy o bobl yn marw, ac mi fydd mwy o bobl yn dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl, fydd yn ei gwneud hi'n anoddach iddyn nhw wella."

Pwysig siarad wyneb yn wyneb

Mae nifer yn pwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu wyneb yn wyneb, gan fod nifer o'r triniaethau yn cynnwys therapi siarad.

Mae yna bryderon ynglÅ·n ag effeithiolrwydd triniaeth ar-lein.

Disgrifiad o'r llun, Yn ôl yr Athro David Nutt mae cysylltu dros y ffôn yn gallu bod yn anodd neu'n destun embaras i rai pobl

Cyn ymddeol, roedd Dr Richard Pates seicolegydd clinigol gyda 25 mlynedd o brofiad yn y maes triniaeth cyffuriau ac alcohol, ac yn gyn-gadeirydd Panel Cynghori Annibynnol ar Gamddefnyddio Sylweddau yng Nghymru.

"Un o'r pethau mae rhywun yn sylweddoli ydi bod y rhan helaeth o bobl sy'n ddibynnol yn gyndyn o fynd at wasanaethau yn y lle cyntaf achos bod nhw'n meddwl y cawn nhw eu barnu," meddai.

"Un o'r pethau mae gwasanaeth da yn cynnig ydi ymddiriedaeth gyda phobl. Mae'n anodd iawn adeiladu perthynas dros y ffôn."

Ffynhonnell y llun, Rachel Cook

Disgrifiad o'r llun, Mae Rachel Cook wedi bod yn gwirfoddoli gyda Phrosiect Kaleidoscope

Mae Kaleidoscope nawr yn cynnig helpu pobl drwy ddefnyddio galwadau fideo, sgyrsiau ar-lein a dros y ffôn, ond mae defnyddwyr yn dweud nad yw'r cyswllt cystal.

"Mae'n wahanol iawn heb y cysylltiad wyneb yn wyneb," medd Rachel Cook, 44 oed, o'r Trallwng. Mae hi wedi bod yn cael cymorth gan elusen Kaleidoscope ers pedair blynedd am ddibyniaeth ar gyffuriau.

"'Dach chi ddim yn cael y paned o de wrth gyrraedd, neu'n siarad gyda phobl eraill wrth aros."

Mae hi wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio cyffuriau ac alcohol ers blwyddyn a hanner, ond mae'r diffyg sesiynau wyneb yn wyneb wedi bod yn "anodd iawn."

'Anodd bob diwrnod'

Mae Rachel wedi bod yn gwirfoddoli gyda Kaleidoscope am ddwy flynedd er mwyn cefnogi eraill gyda'u problemau.

"Mae hi mor bwysig siarad wyneb yn wyneb oherwydd fe allwch chi wybod gymaint am rywun wrth edrych arnyn nhw."

Cyn y cyfnod clo, roedd delio gyda dibyniaeth yn "anodd bob diwrnod," meddai.

"Fedrai ddim dychmygu faint mae'r cyfnod yma wedi effeithio ar bobl," ychwanegodd.

Y darlun rhanbarthol

Mae Kaleidoscope yn gweithio yng ngogledd Cymru, Gwent a Phowys. Mae gostyngiad sylweddol wedi bod yn y niferoedd sy'n mynd am driniaeth yn y tair ardal rhwng 18 Mawrth a 30 Mai o'i gymharu a'r un cyfnod yn 2019.

Triniaeth cyffuriau:

Gogledd - Roedd 106 achos drwy'r system cyfiawnder troseddol yn ystod y cyfnod yn 2019. Eleni roedd 29 - gostyngiad o 73%.

Gwent - Roedd 291 achos o driniaeth wirfoddol yn 2019. Mae hynny i lawr i 143 yn y cyfnod yma, gostyngiad o 51%.

Powys - Roedd 140 achos yn 2019. Bellach mae hynny i lawr i 83, gostyngiad o 41%.

Triniaeth alcohol:

Gogledd - Roedd 62 achos drwy'r system cyfiawnder troseddol yn ystod y cyfnod yn 2019. Eleni roedd 17, gostyngiad o 73%.

Gwent - Roedd 441 achos o driniaeth wirfoddol yn 2019. Mae hynny i lawr i 175 yn y cyfnod yma, gostyngiad o 57%.

Powys - Roedd 94 achos yn 2019. Bellach mae hynny i lawr i 47, gostyngiad o 50%.

Llai yn galw llinell gymorth

Mae Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru, DAN 24/7, wedi gweld gostyngiad yn y niferoedd o alwadau yn ystod wythnosau cyntaf y cyfnod clo.

Ym mis Ebrill 2019, fe gysylltodd 439 o bobl. Mae hynny wedi gostwng i 300 ym mis Ebrill eleni.

Ffynhonnell y llun, Martin Blakebrough

Disgrifiad o'r llun, Mae Martin Blakebrough yn poeni gall y sefyllfa waethygu

Dywedodd Luke Ogden o DAN 24/7: "Mae cymaint o sôn am wasanaethau, busnesau a llefydd gwaith yn cau, ac efallai bod pobl yn meddwl bod hynny'n wir am wasanaethau iechyd.

"Mae nifer o wasanaethau wedi newid y ffordd maen nhw'n cynnig cymorth i'r bobl sydd ei angen. Mae'r newidiadau yma yn cynnwys galwadau fideo, sgyrsiau ar-lein a mwy o sgyrsiau dros y ffôn.

"Mae gwasanaethau yn parhau i gynnig sesiynau wyneb yn wyneb wrth gadw at reolau pellter cymdeithasol.

"Mae cymorth gyda chyffuriau ac/neu alcohol ar gael i bobl yng Nghymru."

Mae'r gwasanaeth yn dweud bod cynnydd mewn galwadau wedi bod ym mis Mai o'i gymharu â mis Ebrill. Roedd y rhan fwyaf o'r galwadau ynglŷn â defnydd alcohol, cocên a chanabis.

Canllawiau llywodraeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi bron i £53m mewn gwasanaethau alcohol a chyffuriau yn y flwyddyn ariannol yma.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth mai Cymru oedd y wlad gyntaf drwy'r Deyrnas Unedig i gynnig chwistrelliad buprenorphine - i drin camddefnydd opioid - er mwyn lleihau'r nifer sydd angen ymweld â fferyllfeydd yn ddyddiol i gasglu presgripsiynau.

"Mae canllawiau wedi cael eu datblygu i gefnogi gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a phobl sy'n gweithio gyda rhai bregus," meddai'r llefarydd.

"Mae'r llinell gymorth DAN 24/7 wedi parhau i gynnig gwybodaeth ynglŷn â'r coronafeirws a'r gwasanaethau sydd ar gael."