Â鶹ԼÅÄ

Pêl-droed: Ailgychwyn gemau Caerdydd ac Abertawe

  • Cyhoeddwyd
AilddechrauFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd holl gemau ym Mhencampwriaeth bêl-droed Lloegr oedd heb eu chwarae o achos y pandemig coronafeirws yn ailddechrau'n fuan.

O ganlyniad fe fydd clybiau Abertawe a Chaerdydd yn chwarae unwaith eto, ond tu ôl i ddrysau caeedig am y tro.

Bydd yr Elyrch yn chwarae oddi cartref yn Middlesbrough ar 20 Mehefin, a'r Adar Gleision yn wynebu Leeds gartref ar ddydd Sul 21 Mehefin.

Ar 27 Mehefin, Luton fydd gwrthwynebwyr Abertawe yn y Liberty, ac fe fydd y gemau'n cael eu chwarae yn yr un drefn ag yr oeddynt i fod i gael eu chwarae cyn i'r argyfwng daro.

Bydd Abertawe'n teithio i chwarae oddi cartref bedair gwaith cyn diwedd y mis, a hynny ganol yr wythnos, wrth i dîm Steve Cooper wynebu Birmingham, Nottingham Forest a Millwall, cyn gorffen y tymor yn Reading ar ddydd Mercher 22 Gorffennaf.

Gemau'r Adar Gleision

Ar ôl chwarae yn erbyn Leeds yn eu gêm gyntaf yn ôl, fe fydd Caerdydd yn teithio i Preston North End ar 27 Mehefin.

Dridiau'n ddiweddarach fe fydd yr Adar Gleision yn wynebu Charlton Athletic ar nos Fawrth, cyn teithio i chwarae Bristol ar benwythnos cyntaf Gorffennaf.

Blackburn (adref), Fulham (oddi cartref), Derby (a), Middlesbrough (oc) a Hull fydd gwrthwynebwyr clwb y brifddinas cyn diwedd y tymor.