Â鶹ԼÅÄ

Pris olew gwresogi ar ei isaf ers degawdau

  • Cyhoeddwyd
Danfon olew gwresogi i gartref

Mae olew gwres canolog yn rhatach nag y bu ers degawdau ac mae adroddiadau fod rhai pobl hyd yn oed yn prynu tanciau ychwanegol er mwyn manteisio ar y prisiau isel.

Ond mae rhybudd y gallai lladron fanteisio ar y tanciau llawn hefyd.

Yn ystod y pandemig mae'r galw am olew wedi gostwng dros 30%, yn bennaf oherwydd llai o ddefnydd gan awyrennau a cherbydau.

Ar gyfartaledd mae prisiau olew gwresogi wedi gostwng o tua 54c y litr i lai na 20c y litr yn yr wythnosau diwethaf - yr isaf ers canol y 1990au.

Poeni am brisiau'n codi'n gyflym

Mae Lloyd Thomas yn rhedeg 'clwb tanwydd' yng Nghastellnewydd Emlyn, lle mae 200 o aelodau yn archebu olew gyda'i gilydd er mwyn arbed arian.

Roedd archeb y mis diwethaf £1,200 yn llai na'r mis blaenorol, ond mae Mr Thomas yn poeni y bydd prisiau'n codi yr un mor gyflym ar ôl i gyfyngiadau coronafeirws gael eu codi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lloyd Thomas yn poeni y bydd y prisiau'n codi'n gyflym

"Dwi'n poeni'n arw," meddai. "Ble bydd y prisie'n mynd wedi hyn? Maen nhw'n dechre codi'n ôl lan nawr yn y mis diwethaf.

"Mae'n anodd i bobl hÅ·n - rydym yn dal yn dlawd - mae lot o bobl sy'n ffaelu fforddio fe fel y mae hi."

Dim dewis yng nghefn gwlad

Mae 113,000 o gartrefi yn defnyddio olew i gynhesu eu tai yng Nghymru, gyda nifer yn gwneud hynny am nad yw'r cyflenwad nwy ar gael - yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Dywedodd Andrew Cooper, rheolwr gwerthiant canolbarth a de Cymru, cwmni Certas - y cwmni gwerthu olew mwyaf yn y DU - eu bod wedi cael cyfnod prysur dros ben yn ddiweddar.

"Mae'r galw am olew wedi cynyddu'n sylweddol, a rydym wedi gweld y pris yn gostwng i'w lefel isaf ers sawl blwyddyn," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r prisiau'n newyddion da i'r cwsmer, medd Andrew Cooper

"Mae tanwydd - ac olew gwresogi yn arbennig - ymhlith yr eitemau mwyaf costus i unrhyw un drwy gydol y flwyddyn," meddai Mr Cooper.

"Fel arfer tua'r adeg yma, byddwn yn gweld pobl yn topio eu tanciau, ond ar hyn o bryd maen nhw'n eu llanw nhw'n gyfan gwbl.

"Mae rhai wedi prynu tanciau ychwanegol er mwyn llanw lan, gan wybod fod y pris yn mynd i godi dros amser."

Dywedodd Mr Cooper, sy'n gweithio o safle'r cwmni yn Sanclêr, fod un cwsmer wedi dweud ei fod yn disgwyl y bydd wedi arbed cymaint â 75% o gost tanwydd o'i gymharu â'r llynedd.

Newyddion da i'r cwsmer

"Mae'n braf gweld newyddion positif yn y dyddiau ansicr ac anodd hyn," meddai.

"Pe bawn i'n gwsmer mi fyddwn inne'n llanw'r tancie hefyd, ond yn gwneud yn siŵr fod mesurau diogelwch yn eu lle. Gyda phawb yn prynu tanwydd mae yna fygythiad o ladrata."

Mae 1.5m o gartrefi yn defnyddio olew yn y DU a 113,000 (7.5%) yng Nghymru. O'r rheiny, Sir Gaerfyrddin sydd uchaf gyda 20,194, ac wedyn:

  • Powys 17,335

  • Penfro 12,282

  • Ceredigion 11,407

  • Gwynedd 9,172

  • Ynys Môn 7,143

Yr isaf yng Nghymru yw Blaenau Gwent gyda 129 o gartrefi yn defnyddio olew.

Dwy waith cymaint am yr un pris

Mae cwmni Quad Fuels o Wrecsam yn cyflenwi cartrefi ar draws gogledd Cymru, a dywedodd eu pennaeth, Anthony Saunders, eu bod wedi disgwyl llai o alw am olew ar ôl y Pasg, ond nad oedd hynny wedi digwydd.

"Mae'r ail don wedi dod oherwydd bod defnyddwyr wedi sylweddoli fod y pris yr oeddan nhw'n ei dalu ar ddechrau 2020 bellach yn prynu dwy waith cymaint o olew, ac felly maen nhw'n llenwi eu tanciau," meddai.

Bu codiad bychan yr wythnos ddiwethaf, ond roedd yn rhagweld y byddai'n cymryd wythnosau i'r marchnadoedd ddod yn ôl i'r drefn arferol.

Dywedodd llefarydd ar ran purfa olew Valero yn Sir Benfro, sy'n cyflogi 1,200, fod eu busnes yn rhedeg ar tua 70% o'i lefel arferol, ond nad oedden nhw'yn ystyried diswyddiadau dros dro, na rhoi staff ar gyfnod o seibiant ar hyn o bryd.

Tanceri'n aros i'r galw godi

Yn ôl Dr Carol Bell, arbenigwraig ar y diwydiant olew, diffyg storfeydd oedd y prif broblem i gwmnïau olew Ewrop.

"Mae tanceri olew yn gorfod aros allan ar y môr ger y porthladdoedd yn disgwyl i'r galw am olew godi eto," meddai.

"Dydyn ni ddim yn gwybod pryd y bydd teithiau awyren yn cael ailddechrau ac fel pawb arall mae'r diwydiant olew yn gorfod aros i weld beth fydd canlyniadau'r pandemig ar yr economi."

Roedd dyfodol olew wedi bod yn destun trafod byd eang oherwydd pryderon am newid hinsawdd, meddai.

"Ychwanegwch at hynny y ffaith bod llawer o fusnesau wedi darganfod yn ystod y pandemig fod nifer o'u gweithwyr yn gallu gweithio o adref, a gallwch weld sefyllfa'n codi lle bydd y galw am danwydd yn parhau i fod yn is nag yr oedd cyn y pandemig ac yn dirywio yn y tymor hir."