Dim cyfyngiadau Covid lleol medd Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Nid yw Llywodraeth Cymru yn ystyried gosod cyfyngiadau lleol mewn gwahanol ardaloedd o'r wlad, gan fod angen cynnal "neges eglur" am coronafeirws.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans y byddai gorfodi rheolau gwahanol mewn ardaloedd gwahanol yn "creu dryswch mawr".

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi eu bod yn ystyried gweithredu cyfyngiadau cymdeithasol ar ardaloedd penodol pan fydd angen, os bydd achosion o'r haint ar gynnydd yn lleol.

Yn ystod cynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru i'r wasg, dywedodd Ms Evans: "Ar hyn o bryd nid ydym yn ystyried gwahanol gyfnodau cloi ar draws gwahanol ardaloedd o Gymru."

Ychwanegodd mai "un o gryfderau" neges Llywodraeth Cymru oedd ei fod "yn neges eglur iawn" sydd yn berthnasol i bob rhan o Gymru.

"Rwy'n credu os ydych yn edrych ar gyfnodau cloi gwahanol, neu gyfnodau cloi mewn ardaloedd bach iawn, yna mae potensial am gryn dipyn o ddryswch", meddai Ms Evans.

"Rwy'n credu y bydd y gwaith profi ag olrhain yn hynod o bwysig o ran negyddu'r angen am y math yma o gyfnodau cloi yn lleol yn y dyfodol, achos fe fydd yn ymwneud ag olrhain yr unigolion hynny sydd wedi bod mewn cyswllt gyda rhywun sydd wedi ei heintio gyda coronafeirws.

"Rwy'n credu y bydd hyn yn ffordd llawer iawn mwy defnyddiol, eglur a dealladwy i symud ymlaen yn hytrach na'r camau lleol gwahanol hynny."

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd pobl sy'n dod i gysylltiad gyda rhywun a gafodd brawf positif am Covid-19 yn cael eu holrhain o 1 Mehefin.