Â鶹ԼÅÄ

Addasu trafnidiaeth gyhoeddus i geisio achub bywydau

  • Cyhoeddwyd
Un o drenau Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg gwasanaethau trenau yng Nghymr ers Tachwedd 2018.

Efallai y bydd yn rhaid i deithwyr archebu lle o flaen llaw ar wasanaethau bysiau a threnau yn y dyfodol yn ôl Gweinidog yr Economi, Ken Skates.

Bydd y niferoedd fydd yn cael teithio ar wasanaethau yn cael ei "leihau'n sylweddol" i sicrhau diogelwch yn ystod y pandemig coronafirws.

Dywed Mr Skates nad ydyn nhw eisiau gweld trenau a bysiau yn llawn teithwyr yng Nghymru, fel y digwyddodd yn Llundain pan gafodd rheolau teithio eu llacio.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried blaenoriaethu lle ar drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer gweithwyr allweddol a phobl anabl.

Dechreuwyd prosiect peilot yng Nghasnewydd i dreialu archebu teithiau bws dros y ffôn ac ap.

Mae cynllun "Fflecsi" yn cael ei redeg gan Newport Bus mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni Newport Bus wedi bod yn rhan o beilot Fflecsi

Mae nifer o wasanaethau bysiau lleol wedi'u disodli gan wasanaethau hyblyg.

Gall teithwyr ofyn am gael eu codi a'u gollwng ger gwaith, siopau neu gartref, yn hytrach na dilyn amserlen benodol mewn arosfannau bysiau sefydlog.

Cyn gynted ag y bydd teithiwr wedi'i archebu lle, bydd Bws Casnewydd yn gwarantu sedd i'r teithiwr a digon o le o dan ganllawiau pellhau cymdeithasol.

Mae'r cynllun yn rhedeg rhwng 7:30 am a 6:30 pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac mae'n cynnwys cyrchfannau allweddol fel ysbytai ac archfarchnadoedd.

Ehangu'r cynllun

Os bydd y cynllun peilot yn llwyddiannus bydd Trafnidiaeth Cymru yn ceisio ehangu'r cynllun i fwy o ardaloedd.

Dywedodd Ken Skates fod diogelwch teithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus yn "ystyriaeth enfawr".

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod gyda gweithredwyr trafnidiaeth ac undebau ar sut y byddan nhw'n rheoli'r galw gyda rheolau pellhau cymdeithasol mewn lle.

Dywedodd Mr Skates, "Bydd trenau a bysiau yn cludo llawer llai o bobl."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd James Price of Drafnidiaeth Cymru bod "diogelwch yn flaenoriaeth."

"Bydd yn rhaid i ni ystyried mesurau fel archebu ymlaen llaw yn unig, fel cynllunio teithio'n ofalus, fel blaenoriaethu pwy sy'n teithio ar fysiau a threnau er enghraifft gweithwyr allweddol a phobl anabl."

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru, fod yr arbrawf Fflecsi yn un "cyffrous" o ran trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

"Mae'r pandemig Covid-19 wedi cael effaith uniongyrchol ar drafnidiaeth gyhoeddus. Diogelwch ein cydweithwyr a'n cwsmeriaid yw ein prif flaenoriaeth o hyd.

"Mae'r cynllun peilot newydd hwn yn cynnig cyfle inni edrych ar ffordd newydd o weithredu trafnidiaeth gyhoeddus ac o dan yr amgylchiadau presennol hyn bydd yn caniatáu i gwmnïau bysiau symud pobl o gwmpas wrth gynnal pellter cymdeithasol.

"Dwi'n edrych ymlaen i ddarganfod beth allwn ei ddysgu o'r arbrawf yng Nghasnewydd a sut y gallwn o bosibl gymhwyso hyn mewn meysydd eraill yn y dyfodol."