Cyfanswm o 1,852 wedi marw â coronafeirws yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, Alamy

Disgrifiad o'r llun, Roedd 507 o farwolaethau mewn cartrefi gofal yng Nghymru hyd at 8 Mai

Mae cyfanswm o 1,852 o farwolaethau'n ymwneud â coronafeirws wedi bod yng Nghymru bellach, yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Dim ond y marwolaethau hyd at 8 Mai sydd wedi'u cynnwys yn y data, sy'n golygu bod y ffigyrau'n debygol o fod yn uwch erbyn hyn.

Ar 8 Mai roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dweud mai 1,099 o bobl oedd wedi cael prawf positif am Covid-19 oedd wedi marw yng Nghymru.

Yn yr wythnos hyd at 8 Mai cafodd 211 o farwolaethau eu cofnodi yng Nghymru gyda coronafeirws wedi'i gofnodi fel yr achos - 30.5% o'r holl farwolaethau.

507 o farwolaethau mewn cartrefi gofal

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod 507 o farwolaethau wedi bod mewn cartrefi gofal yng Nghymru hyd at 8 Mai.

Mae hyn yn uwch na ffigyrau Arolygaeth Gofal Cymru, oedd yn dangos 392 o farwolaethau hyd at 15 Mai.

Caerdydd yw'r sir sydd wedi'i tharo waethaf yng Nghymru, gyda 303 o farwolaethau.

Ond Rhondda Cynon Taf sydd â'r gyfradd uchaf o farwolaethau o ystyried y boblogaeth - 93.28 marwolaeth i bob 100,000 o bobl.

Marwolaethu'n gostwng yn y gogledd

Mae'n ymddangos fod marwolaethau coronafeirws yn gostwng yn y gogledd hefyd erbyn hyn - nifer y marwolaethau yn yr wythnos hyd at 8 Mai (40) oedd y nifer isaf ers dros fis.

Daw wedi i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gyhoeddi ddydd Llun eu bod yn credu bod yr ardal wedi pasio brig y feirws.

262 o farwolaethau sydd wedi bod ar draws y gogledd hyd yma - 40 o'r rheiny mewn cartrefi gofal.