Caniatáu cwrdd â pherthnasau 'dan ystyriaeth'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cyngor gwreiddiol i 'Aros Adre' yn parhau

Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn ystyried a ddylai pobl gael yr hawl i gwrdd ag anwyliaid sydd ddim yn byw gyda nhw, ond yn yr awyr agored yn unig.

Bydd adolygiad nesaf Llywodraeth Cymru o'r rheolau coronafeirws yn digwydd yr wythnos nesaf ar 28 Mai.

Daw hyn yn dilyn cyngor gwyddonol newydd sy'n dweud bod y feirws yn "debygol iawn o ddirywio'n gyflym" mewn goleuni haul.

Dywedodd Mr Gething bod gweinidogion yn cael "trafodaeth lawn" ar y mater.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae gan grwpiau o hyd at chwech o bobl sydd ddim yn rhannu cartref yr hawl i gwrdd yn yr awyr agored. Yn Lloegr gall pawb gwrdd gydag un person sydd ddim yn byw gyda nhw.

Does dim disgwyl penderfyniad cyn y bydd yr adolygiad o'r cyfyngiadau presennol yn cael ei gwblhau yr wythnos nesaf.

Rhif 'R' yn agos at un

Ddydd Mawrth fe gyhoeddodd Cell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru ddogfen sy'n dweud bod coronafeirws "yn debygol iawn o ddirywio'n gyflym (ychydig funudau) yn yr awyr iawn ac yng ngoleuni'r haul".

Ond mae'r un ddogfen yn dweud bod cynnydd bach wedi bod yn y raddfa y mae coronafeirws yn atgynhyrchu yng Nghymru.

Ar 12 Mai roedd y rhif 'R' (sy'n cynrychioli'r raddfa yna) rhwng 0.7-1 - y rhif blaenorol oedd rhwng 0.7-0.9.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod am gadw R o dan un, ac mae'r ddogfen yn dweud bod R "bron yn sicr o fod o dan un, ond fe allai fod yn agos at hynny".

Ffynhonnell y llun, Welsh Government

Disgrifiad o'r llun, Vaughan Gething yn y gynhadledd ddyddiol dydd Mawrth

Problemau profion

Yn y cyfamser mae Mr Gething wedi cyfadde bod rhai problemau gyda'r system brofi newydd wedi i Gymru ymuno gyda chynllun y DU sy'n caniatáu i bawb dros bump oed sydd â symptomau i gael prawf am Covid-19.

Ddydd Llun fe ymunodd Llywodraeth Cymru gyda chynllun profi'r DU gyfan, gan ganiatáu profion yn y cartref, a phrofion i bawb dros bump oedd oedd yn dangos symptomau o'r haint.

Ond ddydd Mawrth roedd y porth ar y we yn dangos nad oedd unrhyw offer prawf cartref ar gael. Hefyd dim ond gweithwyr allweddol oedd yn medru archebu prawf yn un o'r canolfannau profi.

Yn y gynhadledd ddyddiol dywedodd Mr Gething eu bod yn ceisio deall y "problemau cychwynnol" yn y system.

"Rydym yn rhagweld y bydd galw mawr am offer profion yn y cartref dros y dyddiau cyntaf," meddai.

Ychwanegodd y bydd cynllun i olrhain a tracio'r feirws yn cael peilot yn ardaloedd byrddau iechyd Cwm Taf Morgannwg, Powys, Betsi Cadwaladr a Hywel Dda, gyda'r awdurdodau lleol perthnasol yn gyfrifol am staffio hynny.