Â鶹ԼÅÄ

Pryder milfeddygon na all y diwydiant oroesi'r argyfwng

  • Cyhoeddwyd
Meleri Wyn Tweed
Disgrifiad o’r llun,

Mae Meleri Wyn Tweed bellach ar gynllun saib o'r gwaith Llywodraeth y DU

Mae cymdeithas filfeddygol y BVA yn dweud bod perygl na fydd modd i rai canolfannau milfeddygol oroesi wedi argyfwng Covid-19, wrth iddyn nhw alw am gefnogaeth gadarn gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl milfeddygon, mae'r straen yn cynyddu, nid yn unig yn fewnol ond ar berchnogion anifeiliaid anwes hefyd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "ymwybodol o'r trafferthion sy'n wynebu'r diwydiant" a bod rhai milfeddygfeydd yn gymwys i dderbyn grant o £10,000.

Yn gyffredinol, dim ond triniaethau brys ac allweddol sy'n cael eu darparu gan filfeddygon ers dechrau'r cyfnod clo.

Mae hynny'n golygu fod nifer o filfeddygon bellach ar gynllun seibiant o'r gwaith Llywodraeth y DU.

'Dwi'n poeni am yr anifeiliaid'

Gofalu am ei hanifeiliaid ei hun ar ei thyddyn yn ne Powys y mae'r milfeddyg Meleri Wyn Tweed erbyn hyn.

"Mae pedair allan o'r chwech ohonom ni yn y practis bellach ar furlough oherwydd mae'r gwaith 'di cwympo yn sylweddol," meddai.

Mae cadw draw o'r gwaith yn anodd iddi.

"Dwi'n poeni am yr anifeiliaid sydd angen goruchwyliaeth. Dwi 'di dod i'w hadnabod dros flynyddoedd," meddai.

"A dweud y gwir, dwi 'rioed 'di poeni gymaint amdanyn nhw yn y fy amser hamdden, oherwydd maen nhw'n dal i fod angen triniaeth i'w cadw'n gyfforddus."

Mae Ms Tweed hefyd yn gweld arwyddion fod rhai perchnogion anifeiliaid anwes yn ei chael hi'n anodd dal dau ben llinyn ynghyd.

"Mae pobl yn barod wedi gorfod stopio talu yswiriant, ond mi fydden i'n pwysleisio ei bod hi'n holl bwysig ceisio parhau i wneud y taliadau, os yw perchnogion yn medru, oherwydd gallan nhw fod angen yr yswiriant yn y dyfodol."

Yn ôl cymdeithas filfeddygol y BVA, mae dyfodol sawl milfeddygfa yn y fantol os na chaiff cyfraddau busnes eu heithrio ar eu cyfer, ac maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig cefnogaeth gadarn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ifan Lloyd bod gwaith mwyaf proffidiol milfeddygon wedi'i atal

Yn ôl Ifan Lloyd, llywydd Cymru y BVA, mae'n sefyllfa heriol yn ariannol.

"Y gwaith routine yw'r un mwyaf proffidiol, a dyna'r gwaith sydd ar stop, tra mai'r gwaith argyfwng yw'r un lleiaf proffidiol," meddai.

Mae ystadegau gan Goleg Brenhinol y Milfeddygon yn awgrymu fod hanner y canolfannau milfeddygol ym Mhrydain wedi gweld gostyngiad o dros 50% neu fwy yn eu trosiant fis Ebrill, gyda chwarter wedi profi gostyngiad o dros 75%.

'Ymwybodol o'r trafferthion'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod gan filfeddygon rôl allweddol i'w chwarae wrth gynnal safonau iechyd anifeiliaid.

"Rydym yn ymwybodol o'r trafferthion sy'n wynebu'r diwydiant," meddai.

"Mae milfeddygfeydd yn gymwys i dderbyn grant o £10,000 os yw gwerth ardrethol y busnes yn £12,000 neu lai.

"Byddwn yn parhau i gydweithio'n agos â'r diwydiant wrth ystyried holl oblygiadau Covid-19."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhys Beynon-Thomas ei bod yn "medru bod yn unig iawn ar filfeddygon ifanc"

Mae'n gyfnod prysurach i filfeddygon sy'n gofalu am anifeiliaid fferm,  gyda'r gwaith hwnnw yn y categori allweddol.

Mae Rhys Beynon-Thomas bellach yn gweithio o'i gartref yn hytrach na'r swyddfa ar gyrion Caerfyrddin.

"Ry'n ni'n casglu cyffuriau mewn gwahanol leoliadau, ac yna mas i'r ffermydd," meddai.

"Gyda'r pellter cymdeithasol, dwi'n ceisio dweud wrth ffermwyr am aros wrth ben y fuwch a finnau wrth ei phen-ôl, gan fod hyd buwch tua dau fetr!"

'Medru bod yn unig iawn'

Dyw milfeddygon ddim yn medru cwrdd â'i gilydd mwyach, ac mae pryder am yr effaith ar filfeddygon iau.

"Ry'n ni'n trio cynnig cyngor drwy Zoom a WhatsApp, ac maen nhw'n anfon lluniau aton ni.

"Mae'n medru bod yn unig iawn ar filfeddygon ifanc, gyda nifer ohonyn nhw wedi gadael eu hardaloedd genedigol ac felly'n byw ar eu pen eu hunain.

"Felly ni'n gorfod cymryd hynny i ystyriaeth wrth redeg y busnes ar hyn o bryd."

Mae milfeddygon fferm ac amaethwyr yn weithwyr allweddol, ac maen nhw yno i helpu ei gilydd, yn ôl Mr Beynon-Thomas.     

"Mae'n anodd iawn ar hyn o bryd, pan mae 'da chi caesarian lletchwith, a llo 70 cilo i'w dynnu allan, mae'n rhaid i chi gael help y ffermwr. Mae angen bôn braich, ac mae 'na ddealltwriaeth.

"Fel gweithwyr allweddol, ni'n derbyn bod yn rhaid i ni weithio ochr yn ochr ar brydiau."