Rhybudd: Bydd hi'n anodd i bobl ifanc ddod o hyd i swydd

Disgrifiad o'r fideo, Dan Clarke, Gwern Rowlands ac Alaw Davies fu'n rhannu eu hanesion a'u pryderon
  • Awdur, Alys Davies
  • Swydd, Newyddion Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae corff sy'n cynrychioli myfyrwyr yn rhybuddio y bydd disgyblion sy'n gadael yr ysgol a graddedigion newydd yn ei chael yn anodd dod o hyd i swyddi o ganlyniad i argyfwng Covid-19.

Yn ôl y Sefydliad Cyflogwyr Myfyrwyr mae nifer y swyddi lefel mynediad wedi gostwng 23% ar draws Prydain.

Mae Alaw Davies, sydd yn ei blwyddyn olaf yn astudio hanes ac athroniaeth gwyddoniaeth yn University College London, wedi ymgeisio am nifer o swyddi sydd bellach wedi rhoi'r gorau i dderbyn mwy o geisiadau am y flwyddyn.

"Mae pethau'n edrych bach yn fwy tricky na'r arfer," meddai.

"O'n i yn gobeithio dechrau swydd cyn gynted ag i mi orffen fy nghwrs ym mis Mai, a dwi dal i edrych am swydd, ac wedi ymgeisio am lot ond heb lwc 'to.

"Yr ansicrwydd sydd wedi bod yn anodd yn y sefyllfa yma. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n graddio yn ffeindio'r cyfnod yma bach yn ansicr, ond mae'r pandemig wedi cynyddu'r ansicrwydd yma."

Disgrifiad o'r llun, Mae Dan wedi cael trafferth canfod swydd ers dychwelyd o'i flwyddyn saib

Mae'r sefyllfa hefyd yn anodd i bobl fel Dan Clarke, 19 o Gaerdydd, ac sydd ar flwyddyn saib cyn mynychu Prifysgol Caergrawnt yn yr hydref.

"Fy nghynlluniau i am y flwyddyn oedd gwneud tymor sgïo yn Japan, ac ar ôl hynny trafeilio o gwmpas y wlad tan fis Mai," meddai.

"Ond yn anffodus roedd yn rhaid i fi ddod 'nôl o Japan ddeufis yn gynnar.

"Pan ddychwelais i, roedd lot o'r swyddi yn yr archfarchnadoedd wedi eu cymryd yn barod, so dwi wedi cael trafferth i ffeindio swydd yng Nghaerdydd. Mae'n gystadleuol iawn."

Disgrifiad o'r llun, Bu'n rhaid i Dan adael Japan ddeufis yn gynnar oherwydd yr argyfwng

Mae'r sefyllfa hefyd wedi gorfodi pobl ifanc sydd eisoes yn cael eu cyflogi fel prentisiaid i addasu.

Yn eu plith mae Gwern Rowlands, 19 o Lanuwchllyn, sy'n astudio ar gyfer prentisiaeth adeiladwaith.

"Dwi'm yn gallu mynd i ngwaith dim mwy," meddai.

"Wedyn dwi'n teimlo bach yn gas... gorfod aros adre a jyst cario ymlaen y mwyaf dwi'n gallu gyda gwaith coleg.

"O'n i fod i orffen [y brentisiaeth], dwi'n siŵr mai wythnos yma oedd o. Oedd gennym ni exam ar-lein i'w wneud, ond dwi'm yn gwybod beth sy'n mynd ymlaen efo hwnna.

"Ar ôl gwneud yr holl waith, dwi jyst eisiau cael o 'di 'neud a chael y radd."

Disgrifiad o'r llun, Mae Gwern Rowlands o Lanuwchllyn yn astudio ar gyfer prentisiaeth adeiladwaith

Gydag ofnau y bydd cyfleodd i sicrhau prentisiaethau neu swyddi yn prinhau dros y misoedd nesaf - mae'n gyfnod anodd i bobl ifanc fel Gwern, Dan ac Alaw.

Yn ôl Dylan Evans, cynghorydd o Gyrfa Cymru: "Mae yna lot o bobl ifanc a teuluoedd yn cysylltu hefo ni ar hyn o bryd yn gofidio am beth maen nhw'n mynd i wneud nesa'.

"Mae lot o bobl ifanc eisiau cario ymlaen efo'u haddysg.

"Mae yna bobl ifanc eraill wedyn sydd eisiau mynd mewn i'r byd gwaith, a gwneud prentisiaethau, ac mae hynny yn ansicr ar hyn o bryd, yn enwedig gan fod cyflogwyr ddim yn siŵr o beth sy'n digwydd chwaith.

"Felly mae o'n bwysig bod pobl ifanc yn edrych ar gynlluniau wrth gefn, ac yn defnyddio'r sgiliau sydd ganddyn nhw i edrych ar opsiynau gwahanol, falle i wneud bach o brofiad gwaith, gwaith gwirfoddol, i wneud yn siŵr bod eu sgiliau nhw yn datblygu."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Dylan Evans bod nifer o bobl ifanc a'u rhieni wedi cysylltu gyda phryderon

Yn ôl Deborah Watson, cyfarwyddwr gwefan hysbysebu swyddi GraddedigionCymru, maen nhw wedi gweld gostyngiad o hyd at 90% yn nifer yr hysbysebion swyddi ar eu gwefan.

Er bod arwyddion o rywfaint o welliant, ychwanegodd Ms Watson: "Beth ry'n ni'n ei weld yw bod swyddi graddedigion sy'n cael eu cynnig gan gyflogwyr bach a canolig yn diflannu, gan fod nifer o'r cwmnïoedd hyn wedi gorfod rhoi eu staff presennol ar gyfnod o segurdod a dydyn nhw yn bendant ddim yn recriwtio.

"Mae hyn yn cael effaith arwyddocaol ar swyddi i raddedigion."