Mark Drakeford: Feirws wedi amlygu 'cryfder' datganoli

Ffynhonnell y llun, Getty Images

  • Awdur, Siwan Richards
  • Swydd, Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae'r her sy'n ein hwynebu ni gyda coronafeirws wedi dangos i bobl beth yw "cryfder" datganoli, yn ôl y Prif Weinidog Mark Drakeford.

Wrth siarad â Dewi Llwyd ar raglen Dros Ginio ddydd Llun dywedodd: "Ar ôl ugain mlynedd o ddatganoli, nawr ma' nifer o bobl yn Llundain yn deffro i'r ffaith bod y system wedi newid.

"Mae lot o bobl nawr wedi dysgu mae cyfrifoldebau 'da ni yng Nghymru ac yn yr Alban ac yn y blaen. Cyfrifoldebau gwahanol a lan i ni yng Nghymru mae gwneud penderfyniadau sy'n addas i ni.

"'Wy'n meddwl fod pobl yn gallu gweld y cryfder o'r system sydd 'da ni nawr."

Gofyn am gyfarfodydd wythnosol

Gwadodd yr honiad ei fod am wneud pethau yn wahanol yng Nghymru gan taw llywodraeth Lafur oedd yma, gan ddweud: "Dwi isie i ni symud fel un Deyrnas Unedig 'da'n gilydd."

Er yn canmol y cydweithio rhwng y gwledydd pan fo hynny'n digwydd, dywedodd ei fod wedi gofyn i Weinidog y Cabinet, Michael Gove am gyfarfodydd wythnosol, gan "nad yw'r cyfleon yn dod mewn patrwm digon dibynadwy i fi".

"Doed dim rhaid siarad 'da Boris Johnson bob tro," meddai. "Dwi'n hapus i siarad gyda eraill yn San Steffan pan mae 'na bynciau penodol yn dod dan eu cyfrifoldebau nhw."

Dywedodd nad yw'n ystyried llacio a thynhau rhanbarthol ar y cyfyngiadau ar hyn bryd, gan nad oedd yn "rhywbeth ymarferol i 'neud".

"I redeg un system gwahanol mewn un rhanbarth o Gymru i'r llall, dwi'n meddwl fod hwnna yn gymhleth dros ben, yn anodd i roi negeseuon clir i bobl, anodd i'r heddlu a pobl eraill i fynd ar ôl systemau sy'n wahanol o un lle yng Nghymru i'r llall."

Serch hynny dywedodd ei fod yn "hapus i ddal i siarad" ond doedd e ddim yn gweld "taw dyna'r ffordd orau i neud pethau".