Ceredigion yn debyg o golli 'tymor twristiaeth cyfan'

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Ellen ap Gwynn ei hethol yn arweinydd Cyngor Ceredigion yn 2012

Mae'n annhebygol y bydd Ceredigion ar agor i ymwelwyr eleni medd arweinydd y Cyngor, Ellen ap Gwynn.

Gyda phryder nad yw rhannau o Gymru eto i brofi brig y coronafeirws, mae'r Cynghorydd ap Gwynn wedi rhybuddio y gall tymor gwyliau cyfan gael ei golli.

Ychwanegodd bod cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau sydd wedi gorfod cau yn hanfodol.

"Am y dyfodol agos ac hyd y gwelai dwi ddim yn meddwl y byddwn ni'n gallu croesawu pobl i Geredigion fel 'da ni'n arfer gwneud yn ystod y tymor sy'n dod," meddai.

"Bydd rhaid i ni fod yn ofalus a cymryd gam wrth gam fel mae penderfyniadau'n dod i ail ddechrau gwahanol bethau.

"Mae'n rhaid i ni weld pa effaith mae hynny yn mynd i gael er enghraifft sôn am agor cyrsiau golff, gadael pobl i fynd i bysgota.

"Mae'r rheini yn bethau sydd yn un ac yn ddau a siŵr o fod yn weddol ddiogel i'w gwneud.

"Ond i gael criwiau o bobl i ddod lawr i'r gwersylloedd gwyliau sydd gyda ni ar hyd yr arfordir ac i dyrru i'r traeth ac ar hyd y llwybrau cyhoeddus, sydd mor gul na alw chi gadw pellter addas rhwng pobl.

"Mae rhaid i ni gymryd hi'n araf. Dwi ddim am weld pobl yn dod i Geredigion, mynd adref, ffeindio eu bod yn dost a bod ni'n colli mwy a mwy o bobl unwaith eto.

"Mae'n rhaid i ni fod yn gall a mynd yn ôl cyfarwyddyd clinigol a chyfarwyddyd gwyddonol oddi wrth Gaerdydd."

Dangosodd y ffigyrau diweddaraf bod nifer y rhai brofodd yn bositif gyda Covid-19 o fewn Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sydd yn cynnwys Ceredigion, wedi codi i 38.

"Mae'n bosib nad yw'r brig 'na wedi ein cyrraedd ni eto ac mae fel tase fe wedi symud yn ara' bach ar hyd yr M4 ac ar hyd yr A55," meddai'r Cynghorydd ap Gwynn.

"Mae'n bosib y daw i ni eto a dyna'r rheswm arall pam y bobl yn teimlo bod yn rhaid i ni fod yn ofalus.

"Ac os ydych yn gwrando mae yna fygythiad y gallwn ni, os nad ydym yn ofalus, cael ail don neu hyd yn oed trydydd ton sydd yn waeth.

"Mae'r modelu sydd yn cael ei wneud yn arwain i ni feddwl bod rhaid i ni gymryd hi yn ara' bach a bob yn dipyn a bod yn ofalus tu hwnt fel bod ni'n symud o fan hyn nes bod yna vaccine."

"Unwaith bod hwnnw ar gael bydd yn newid y sefyllfa yn llwyr ac yn gobeithio yn gynt nag yn hwyrach."

Mae'r argyfwng wedi golygu bod y sector twristiaeth ac hamdden wedi bod ar gau ers mis Mawrth, gyda busnesau yn colli allan ar wyliau'r Pasg ym mis Ebrill.

Roedd Cynghorydd ap Gwynn yn "hynod falch" bod cymorth ariannol wedi dod gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau o fewn y sector.

"Da ni wedi gallu rhoi arian iddyn nhw i'w cynnal nhw dros ychydig o fisoedd ar hyn o bryd beth bynnag," meddai.

"Dwi yn gobeithio os bydd hwn yn para'n hirach y bydd Llywodraeth Cymru yn ail edrych i weld sut mae nhw'n gallu helpu nhw ymhellach.

"Achos mi fydd yn golygu efallai bydda nhw yn colli tymor cyfan, mae 'na berygl fan yna.

"Mae'n rhaid i ni fynd a'r neges yna yn ôl, fel dwi'n trio gwneud o wythnos i wythnos dwy gael cyfleoedd i siarad gyda rhai o'r gweinidogion

"Felly mae'r neges yna yn mynd yn ôl yn gyson, bod rhaid i ni sicrhau bod 'na gymorth ariannol i'r sectorau yma sydd yn dioddef fwyaf pe byddai'r peth 'ma yn mynd yn ei flaen yn hir."