Canolfannau ailgylchu i ailagor ledled Cymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i'r cyhoedd fod yn amynyddgar wrth ddefnyddio canolfannau ailgylchu eto

Bydd canolfannau ail-gylchu yn cael agor drwy Gymru yn ystod yr wythnos nesaf.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi dewis ailagor ar 26 Mai, ond mi fydd rhaid i bob canolfan fodloni meini prawf.

Mae'r llywodraeth hefyd yn pwysleisio ni ddylai'r cyhoedd ddefnyddio'r canolfannau oni bai bod hynny'n hanfodol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn: "Rwy'n gofyn unrhyw un sy'n defnyddio canolfannau ailgylchu i fod yn amyneddgar a sicrhau ei fod yn ceisio gwybodaeth ymlaen llaw o ran bod y ganolfan leol ar agor, pa eitemau sy'n cael eu derbyn a pha ofynion sydd ar waith."

Ychwanegodd: "Dylai unrhyw un sydd â symptomau Covid-19, unrhyw un sy'n byw ar aelwyd gyda rhywun sydd â symptomau Covid-19 neu unrhyw un sy'n gwarchod osgoi ymweld â'i ganolfan ailgylchu leol."

Er mwyn i ganolfan gallu agor, mi fydd cynghorau wedi eu bodloni o ran y canllawiau canlynol:

  • bod nifer priodol o staff ar gael i weithredu'r cyfleusterau
  • bod y safleoedd yn gallu cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch llym, gan gynnwys y gofynion o ran glanweithdra, cadw pellter cymdeithasol a'r goblygiadau o ran rheoli traffig
  • bod trafodaethau'n cael eu cynnal gyda'r Undebau Llafur i gytuno ar y trefniadau ar gyfer unrhyw achosion o ailagor a gweithredu'r canolfannau

Mae'r canolfannau wedi bod ar gau ers i Gymru gyflwyno mesurau i gyfyngu ar deithio a chymdeithasu oherwydd y pandemig Cornofeirws ym mis Mawrth.

Disgrifiad o'r llun, Mae'n bosib rhoi cosb benodol o £400 am dipio yn anghyfreithlon

Yn ystod y cyfnod yma, mae'r llywodraeth yn dweud bod nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon wedi cynyddu a bod ailagor y canolfannau ail-gylchu yn gam i geisio gwrthdroi y weithred anghyfreithiol hynny.

"Dylai pob gwastraff gael ei storio'n ddiogel neu ei waredu'n gyfreithlon," meddai Ms Blythyn.

"Dylech waredu eitemau o'r cartref gan ddefnyddio'r gwasanaeth casglu wrth ymyl y ffordd neu'r gwasanaeth casglu gwastraff y cartref a ddarperir gan eich cyngor, cyn i chi ystyried ymweld â chanolfan ailgylchu."

Yn ôl y llywodraeth, bydd rhagor o wybodaeth ynghylch pryd y bydd canolfannau ailgylchu yn ailagor, a'u hamseroedd agor, ar gael ar wefannau pob awdurdod lleol.