Achos Pen-y-graig: Cyhuddo menyw o lofruddio dyn 88 oed

Disgrifiad o'r llun, Bydd Zara Anne Radcliffe yn ymddangos mewn llys eto ddydd Llun nesaf

Mae menyw 29 oed wedi ymddangos mewn llys ar ôl cael ei chyhuddo o lofruddio dyn 88 oed wedi digwyddiad mewn siop yn y Rhondda.

Bu farw John Rees o Drealaw, Tonypandy ar ôl cael ei drywanu wrth siopa yn archfarchnad Co-op ym Mhen-y-graig brynhawn Mawrth.

Siaradodd Zara Anne Radcliffe, o ardal Porth, ond i gadarnhau ei henw a'i chyfeiriad mewn gwrandawiad byr o flaen ynadon yng Nghaerdydd ddydd Iau.

Cafodd ei chadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddi fynd o flaen Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.

Mae hi hefyd wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio tri pherson arall - Lisa Way, Gaynor Saurin ac Andrew Price.

Mae Mr Price mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ac fe gafodd y dioddefwyr arall fân anafiadau.

Roedd y mater wedi cael ei gyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, ond penderfynwyd ddydd Iau nad oedd angen ymchwiliad i Heddlu De Cymru.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Mewn teyrnged cafodd Mr Rees ei ddisgrifio fel "y diffiniad o ddyn da" gan ei deulu. Fe ddywedon nhw ei fod yn "uchel ei barch" o fewn y gymuned.

Cafodd hefyd ei ddisgrifio fel aelod "ymroddedig" o Eglwys yr Holl Saint yn Nhrealaw, ble bu'n canu'r clychau ar nosweithiau Iau i ddiolch i weithwyr allweddol yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Roedd e a'i wraig, Eunice, wedi bod yn aelodau o gyngor plwyf eglwysig yr eglwys.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Mr Rees yn aelod selog o Eglwys Yr Holl Saint yn Nhrealaw

Bydd clychau'r eglwys yn canu eto nos Iau, yn ôl llefarydd ar ran Yr Eglwys yng Nghymru.

Dywedodd Joy Rosser, aelod arall o'r eglwys a chynghorydd yn Nhrealaw, y bydd yn curo dwylo er cof amdano nos Iau.

Ychwanegodd: "Roedd John yn berson preifat iawn, yn ŵr wirioneddol fonheddig, yn ymroddgar i'w deulu ac yn ofalwr ffyddlon i'w wraig."