Â鶹ԼÅÄ

Pam nad yw Cymru'n profi pobl dros 65 fel yn Lloegr?

  • Cyhoeddwyd
Samplau'n cael eu profi yng nghanolfan firoleg arbenigol Ysbyty Athrofaol Cymru, CaerdyddFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru ond yn profi 14% o'r targed o 5,000 roedd yn anelu ato erbyn canol Ebrill

Mae staff a phreswylwyr cartrefi gofal yn Lloegr yn cael profion coronafeirws erbyn hyn, os oes symptomau'r feirws arnyn nhw ai peidio. Mae unrhyw un dros 65 oed sydd â symptomau hefyd yn cael gofyn am brawf.

Ond does dim bwriad i gynnig yr un gwasanaeth yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i brofi gweithwyr allweddol sydd â symptomau, gan gynnwys staff a phreswylwyr cartrefi gofal, ond dydy'r profion ddim ar gael i unrhyw un arall dros 65 sydd â symptomau.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething ei fod wedi cael cyngor clîr gan arbenigwyr meddygol a gwyddonol nad yw profi pawb yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau.

Angen profi 'dro ar ôl tro'

Y casgliad yw y byddai'n rhaid profi unigolion dro ar ôl tro, gan fod rhywun â phrawf negyddol un diwrnod yn gallu cael un positif oriau'n ddiweddarach - ac ar hyn o bryd does gan Gymru ddim yr adnoddau i wneud hynny.

Ond mae Llywodraeth Cymru'n anelu at raglen brofi ehangach yn y gymuned yn y dyfodol, yn cynnwys cofnodi achosion a chysylltu â phobl fu yng nghwmni unigolion sydd wedi'u heintio.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna ganolfannau profi min ffordd yng Nghaerdydd, Casnewydd a Llandudno ac mae un yn agor yng Nghaerfyrddin.

Pwy yng Nghymru sy'n gymwys i gael prawf?

  • Gweithwyr allweddol - yn cynnwys gweithwyr y gwasanaethau brys a gweithwyr gofal plant

  • Preswylwyr cartrefi gofal sydd â symptomau

  • Cleifion ysbyty sydd â symptomau

Gweithwyr allweddol sydd â symptomau Covid-19, ond mae blaenoriaeth yn cael ei roi i weithwyr iechyd a gofal sydd â symptomau'r feirws, neu'n hunan-ynysu am eu bod yn rhannu aelwyd â rhywun sydd â symptomau.

Mae profion hefyd yn cael eu cynnig i breswylwyr cartrefi gofal a chleifion ysbyty gyda symptomau'r feirws.

Mae swab yn cael ei gymryd, ac mae'r unigolyn yn derbyn canlyniad ac unrhyw gyngor hunan-ynysu perthnasol.

Nod y polisi yw sicrhau fod gweithwyr yn gallu dychwelyd i'w dyletswyddau, yn rhydd o'r feirws, gynted â phosib.

Mae yna 438,000 o weithwyr allweddol yng Nghymru, gan gynnwys 164,700 o weithwyr gofal iechyd a 9,900 o swyddogion heddlu a charchar.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae profion yn cadarnhau a yw claf â Covid-19 ac yn cyfrannu gwybodaeth am ledaeniad y feirws

Faint sy'n cael eu profi yng Nghymru?

Hyd yma, mae bron i 30,000 o brofion wedi'u cynnal, ond mae hynny'n cynnwys achosion o brofi'r un unigolyn sawl tro dros gyfnod o chwe wythnos.

Rhondda Cynon Taf ac Abertawe sydd â'r nifer uchaf o brofion hyd yma, yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru. Sir Wrecsam sydd â' gyfran uchaf o brofion Covid-19 positif, sef 42%.

Cafodd y prawf cyntaf ei gynnal ar y 29ain o Ionawr. Pobl yn dychwelyd o dramor gyda symptomau ar ôl ymweld â gwledydd fel China a'r Eidal gafodd eu profi gyntaf, ac yna pobl a fu'n rhaid cael triniaeth ysbyty at symptomau ynghyd â staff iechyd a gofal.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gweithiwr iechyd yn cael prawf yng Nghaerdydd

Beth am brofi o ran imiwnedd?

Prawf gwaed yw'r prawf gwrthgorff sy'n ceisio sefydlu os yw person wedi gwella o'r feirws yn barod - drwy edrych am arwyddion o imiwnedd.

Mae'n cymryd llai o amser i gael canlyniadau.

Mae offer profion gwrthgyrff yn cael eu treialu yng Nghymru ond mae yna bryderon nad ydyn nhw'n hollol ddibynadwy.

Yn ôl arbenigwyr, mae'n rhaid nodi'r union straen o'r coronafeirws yn gywir i osgoi rhoi'r camargraff i bobl eu bod wedi eu heintio'n barod ac felly'n annhebygol o'i gael eto.

Maen nhw'n pwysleisio'r angen i osgoi canlyniadau "positif ffug" yn achos gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen.

Beth ddigwyddodd i'r targedau?

Roedd yna fwriad i brofi 5,000 o bobl bob diwrnod erbyn canol Ebrill, a 8-10.000 erbyn Mai.

Cafodd Llywodraeth Cymru feirniadaeth ar ôl cydnabod nad oedd hynny'n bosib.

Mae Lloegr â tharged o gynnal 100,000 o brofion bob diwrnod erbyn dydd Iau, sy'n gyfartal â'r hen darged o 5,000 yng Nghymru.

Erbyn hyn mae modd cynnal hyd at 1,300 o brofion bob dydd yng Nghymru, ac mae'r nifer yn cael ei ehangu.