Â鶹ԼÅÄ

Gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf yn gwella

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty'r Tywysog SiarlFfynhonnell y llun, Cwm Taf HA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwelliannau sydd wedi cael eu gwneud yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful yn cynnwys ehangu uned gofal arbennig i fabanod

Mae gwasanaethau mamolaeth yn ardal bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg "wedi gweld mwy o gynnydd" ac erbyn hyn yn "bendant ar y trywydd iawn."

Dyna asesiad y panel o arbenigwyr sy'n gyfrifol am oruchwylio'r gwelliannau i wasanaethau i famau a phlant yn yr ardal - flwyddyn union ers iddi ddod i'r amlwg drwy adolygiad annibynnol bod menywod wedi cael 'profiadau erchyll a gofal gwael' oherwydd cyfres o ffaeleddau difrifol yn y gwasanaeth.

Ofni colli momentwm

Mae'r bwrdd iechyd bellach wedi cyflawni dros hanner y gwelliannau sydd eu hangen - yn cynnwys y newidiadau pwysicaf.

Ac oherwydd y cynnydd fe fydd y panel annibynnol yn cyhoeddi ei asesiad nesaf o'r sefyllfa mewn chwe mis - yn hytrach na bob tri mis fel sydd wedi digwydd hyd yma.

Ond mae'r panel yn mynegi pryder am y risg o golli momentwm oherwydd heriau Covid-19.

Prif bryder y panel yw bod "ansicrwydd mawr" ac "a fydd y bwrdd iechyd yn gallu cynnal y ffocws a'r ymrwymiad hirdymor sydd ei angen nawr er mwyn adeiladu ar y sylfeini cadarn a grëwyd."

Fe gafodd y panel ei sefydlu ar ôl i Lywodraeth Cymru osod gwasanaethau mamolaeth y bwrdd iechyd dan fesurau arbennig - yn dilyn adroddiad annibynnol damniol wnaeth amlygu cyfres o ffaeleddau.

Clywodd yr adolygiad fod pryder mawr am Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful ac yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant - lle cafodd menywod "brofiadau erchyll a gofal gwael."

Ond casgliad y panel arbenigol erbyn hyn yw fod y bwrdd iechyd ar y trywydd cywir i gyflawni'r holl welliannau er mwyn "ymhen amser, i ddarparu gwasanaeth mamolaeth y gallan nhw, eu staff a'u cymunedau fod yn falch ohono."

Pa waith mae'r panel yn ei wneud ar hyn o bryd?

  • Mae arbenigwyr o tu allan i Gymru wedi ffurfio chwe thîm i adolygu 140 o achosion unigol lle roedd problemau ynghlwm â gofal mamau a babanod rhwng 2016-2018. Bydd pob teulu yn derbyn adroddiad unigol.

  • Mae'r gwaith adolygu wedi'i rannu'n dair rhan: yn edrych ar famau oedd wedi gorfod mynd i uned gofal dwys ar ôl geni, babanod gafodd eu geni'n farw a gofal i fabanod newydd-anedig.

  • Yn y pendraw mae'n bosib y bydd yr arbenigwyr yn edrych ar achosion yn ymestyn yn ôl hyd at 2010.

  • Mae'r bwrdd iechyd wedi cyflawni 16 o argymhellion ychwanegol ers mis Ionawr - cyfanswm o 41 allan o 79 yn y cynllun gweithredu.

  • Mae na gynnydd pendant wrth ddelio â phryderon eraill - yn cynnwys sicrhau hyfforddiant digonol i staff a chreu "gweledigaeth" ar gyfer gwasanaethau mamolaeth ar gyfer y dyfodol.

  • Oherwyd Covid-19 bydd y panel yn monitro'r sefyllfa ar lefel hyd braich tra'n parhau i rannu gwybodaeth gyda theuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio.

Dywedodd Cadeirydd y Panel Annibynnol, Mick Giannasi, fod "newid byd" wedi bod yn y berthynas rhwng mamau a gwasanaethau mamolaeth yn yr ardal a bod newid "uwch-reolwyr" y bwrdd iechyd wedi arwain at newid diwylliant sylweddol yn y sefydliad - gyda staff bellach yn adennill eu hyder.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adolygiad wedi bod yn edrych ar wasanaethau mamolaeth mewn ysbytai yn y Cymoedd

Mewn datganiad dywedodd bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg :

"Rydym yn croesawu'r adroddiad diweddaraf gan y Panel sy'n cydnabod fod cynnydd yn parhau i gael ei wneud o ran gwella ein gwasanaethau mamolaeth"

"Mae ein timau wedi bod yn gweithio'n galed iawn i roi newidiadau sylweddol ac angenrheidiol ar waith fel y gallwn ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i'n menywod a'n teuluoedd.

"Rydym yn ddiolchgar i bawb sy'n ein helpu i wneud hyn."