Â鶹ԼÅÄ

Dros 1,000 wedi marw yng Nghymru â coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
dynes mewn cartrefl gofalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn cynnwys mwy o farwolaethau mewn cartrefi gofal

Mae nifer y marwolaethau yng Nghymru sy'n ymwneud â coronafeirws bellach dros 1,000, yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Roedd cyfanswm o 1,016 marwolaeth yn gysylltiedig â'r haint wedi digwydd erbyn 17 Ebrill a'u cofnodi erbyn 25 Ebrill.

Mae hynny'n uwch na ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer yr un cyfnod am ei fod yn cynnwys marwolaethau ym mhob lleoliad, gan gynnwys adref neu mewn cartrefi gofal.

Yn yr wythnos hyd at 17 Ebrill bu 409 marwolaeth yng Nghymru oedd yn gysylltiedig â Covid-19 - gyda'r ffigwr hwnnw'n cynrychioli 35% o'r holl farwolaethau yr wythnos honno.

Cyfri'n wahanol

Yn Llundain roedd dros hanner y marwolaethau oedd yn rhan o'r ffigyrau diweddaraf yn gysylltiedig â coronafeirws.

Mae nifer y marwolaethau Covid-19 mewn cartrefi gofal yn parhau i gynyddu yng Nghymru, yn ôl yr ONS, a bellach wedi cyrraedd 184.

Roedd hynny'n cynnwys 119 o farwolaethau mewn cartrefi gofal yn yr wythnos ddiweddaraf ble cafodd coronafeirws ei grybwyll ar y dystysgrif marwolaeth - dros ddwbl y nifer o'r wythnos flaenorol.

Mae cynnydd sylweddol o 38% hefyd wedi bod yn nifer y marwolaethau yn gyffredinol mewn cartrefi gofal dros y mis diwethaf, nid yn unig o Covid-19.

Caerdydd sydd wedi gweld y nifer uchaf o farwolaethau coronafeirws (138), gyda dros 40% o'r rheiny digwydd mewn cartrefi gofal.

Ond mae'r cyfraddau marwolaeth uchaf ym Mlaenau Gwent (47.33 marwolaeth am bob 100,000 person), Casnewydd (46.96) a Chaerffili (44.19).

Mae'r dair sir honno i gyd yn rhan o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan, ble cafwyd nifer uchel o achosion o'r haint ar ddechrau'r pandemig.

Mae ffigyrau'r ONS yn cynnwys marwolaethau ble mae doctoriaid wedi nodi eu bod yn amau achos o coronafeirws, tra bod ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru ond yn cynnwys rhai gafodd eu cadarnhau gyda phrawf labordy.