Ysgolion i ailagor 'yn raddol' wrth lacio'r rheolau

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd staff, rhieni a disgyblion yn cael gwybod am ailagor ysgolion mewn da bryd i'w caniatáu i gynllunio
  • Awdur, Bethan Lewis
  • Swydd, Gohebydd Addysg a Theulu Â鶹ԼÅÄ Cymru

Bydd ysgolion yn cael eu hailagor "yn raddol" pan mae cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu llacio, yn ôl y Gweinidog Addysg Kirsty Williams.

Wrth amlinellu pum egwyddor i benderfynu pryd ac ym mha ffordd y byddai hynny'n digwydd, does dim disgwyl iddi nodi amserlen ar gyfer unrhyw newidiadau.

Dywedodd Ms Williams nad oedd hi'n disgwyl i ysgolion agor yn sydyn "i bob disgybl, o bob blwyddyn, drwy'r wythnos".

Mae ysgolion wedi bod ar gau i'r rhan fwyaf o blant ers dros fis, ond mae rhai wedi aros ar agor i roi gofal i blant gweithwyr hanfodol a disgyblion bregus. 

'Addasu'n raddol'

Dywedodd y Gweinidog Addysg y byddai "dull graddol o ganiatáu i fwy o ddisgyblion ddychwelyd i'r ysgol".

Byddai ysgolion yn "addasu'n raddol ac yn ehangu ymhellach yn ystod y cyfnod nesaf" yn unol â chynllun Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford ar gyfer newidiadau i gyfyngiadau, meddai.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Kirsty Williams bod gweithwyr ysgolion a gofal plant yn "arwyr cenedlaethol"

Fe fydd Ms Williams yn cyhoeddi pum egwyddor i benderfynu sut i fynd ati i ehangu gweithgareddau ysgolion:

  • Diogelwch, a lles meddyliol, emosiynol, a chorfforol myfyrwyr a staff;
  • Cyfraniad parhaus i'r ymdrech a'r strategaeth genedlaethol i frwydro yn erbyn lledaeniad Covid-19;
  • Hyder rhieni, staff a myfyrwyr - yn seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth - fel y gallan nhw gynllunio ymlaen llaw;
  • Y gallu i flaenoriaethu dysgwyr ar adegau allweddol, gan gynnwys y rheini o gefndiroedd difreintiedig;
  • Cysondeb â fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud penderfyniadau, i sefydlu arweiniad i gefnogi mesurau fel pellhau, rheoli presenoldeb a chamau amddiffyn ehangach.

'Gobeithiol'

Dywedodd Ms Williams bod y ddealltwriaeth ddiweddaraf o gyfradd trosglwyddo Covid-19 "yn obeithiol, ond mae dal gofyn i ni fod yn ofalus."

"Dim ond pan fydd y dystiolaeth a'r cyngor yn awgrymu mai dyma'r peth iawn i'w wneud y byddwn yn symud tuag at y cam nesaf," meddai.

Ychwanegodd y byddai staff ysgolion, rhieni a disgyblion yn cael gwybod am unrhyw benderfyniadau ynglŷn ag ysgolion mewn da bryd i'w caniatáu i gynllunio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Ni fydd ysgolion yn dychwelyd ar unwaith i weithredu i'w niferoedd llawn," meddai.

"Bydd yn broses raddol ac nid wyf yn disgwyl y bydd ysgolion yn sydyn ar agor i bob disgybl, o bob blwyddyn, drwy'r wythnos."

Gan alw gweithwyr ysgolion a gofal plant yn "arwyr cenedlaethol," dywedodd y byddai ysgolion yn cael eu paratoi ar gyfer "ystod eang" o sefyllfaoedd posib, gan gynnwys "sefyllfa sy'n gofyn i ysgolion leihau eu gweithredu ar adegau penodol yn y dyfodol", er mor annhebygol oedd hynny.

Fe fydd y gweinidog yn ymddangos gerbron Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad yn ddiweddarach ddydd Mawrth.