Â鶹ԼÅÄ

Cynllun profi ar-lein 'heb ei drafod mewn manylder'

  • Cyhoeddwyd
Dr Frank AthertonFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dr Frank Atherton mae strategaethau'r pedair gwlad yn dilyn yr un trywydd, ond gall y gweithredoedd fod yn wahanol

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, wedi dweud na gafodd y porth profi ar-lein a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU ei drafod "yn fanwl ar draws y pedair gwlad".

Ddydd Iau fe gyhoeddodd Llywodraeth Prydain y byddan nhw'n ehangu eu gallu i brofi pob gweithiwr allweddol sy'n dangos symptomau ac aelodau o'u teuluoedd hefyd.

O ran y drefn profi yng Nghymru mae'r flaenoriaeth yn cael ei roi i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sydd yn arddangos symptomau, neu weithwyr sydd yn hunan-ynysu oherwydd bod gan rywun yn eu cartref symptomau.

Wrth ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor Materion Cymreig dywedodd Dr Atherton: "Rwy'n credu y dylem wahaniaethu rhwng rhannu a deall gwyddoniaeth a rhannu polisi."

"Er ein bod wedi cytuno'n fras ar y strategaeth, ac rydym wedi bod yn trafod hynny trwy'r pedwar Prif Swyddog Meddygol trwy'r grŵp uwch glinigwyr," meddai, "bu achlysuron y bydden ni, yng Nghymru, wedi hoffi cael ychydig mwy o wybodaeth am rai o'r manylion ymarferol."

"Byddwn i'n dweud mai dyna fyddai un ohonyn nhw. "

Roedd Dr Atherton yn ateb cwestiwn Stephen Crabb AS, cadeirydd Pwyllgor Materion Cymru - cwestiwn a oedd yn gofyn a ymgynghorwyd â Dr Atherton ynghylch y penderfyniad i Lywodraeth Cymru beidio â bod yn rhan o borth ar-lein newydd Llywodraeth y DU - yn wahanol i Lywodraeth yr Alban. .

Ychwanegodd Dr Atherton: "Mae rhai pethau y mae'n rhaid i ni eu gwneud yn wahanol yng Nghymru ac mae yna bethau eraill y mae'n rhaid i ni eu gwneud mewn ffordd gyd-gysylltiedig ar draws y pedair gwlad."

"Gallaf grybwyll sawl enghraifft lle mae'r cytundeb strategol eang wedi trosi i wahanol ddulliau o weithredu" meddai.

Dim gwahaniaeth strategol

Rhestrodd Dr Atherton enghreifftiau gan gynnwys profi, cysgodi a dosbarthu cyfarpar PPE.

Wrth esbonio strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y broses o lacio rhywfaint ar y cyfyngiadau dywedodd Dr Frank Atherton: "Mae Prif Weinidog Cymru wedi bod yn glir bod gyda ni saith prawf y byddwn yn eu cymhwyso, sydd yn debyg iawn i'r pum mesur a gafodd eu cyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn Lloegr.

"Nid oes llawer iawn o wahaniaeth yn nhermau strategol ond mae rhywfaint o wahaniaeth gweithredol."

Ychwanegodd: "Mae gennym yr hyblygrwydd hwnnw ac mae hynny'n bwysig iawn i ni yng Nghymru, ac rydym yn gallu teilwra ein hymateb i anghenion pobl yng Nghymru."