Â鶹ԼÅÄ

Galw ar bobl i gyfrif pryfed yn ystod haint coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Two children looking at a butterflyFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cadwraethwyr yn galw ar y cyhoedd i gofnodi gwybodaeth am bryfed sy'n trosglwyddo paill - gwybodaeth a allai gael ei golli yn ystod haint coronafeirws.

Mae'r cyfyngiadau presennol yn atal gwyddonwyr rhag archwilio rhai safleoedd cadwriaethol ac felly mae data hanfodol am rai rhywogaethau yn cael ei golli.

Mae grwpiau fel elusen Butterfly Conservation yn galw ar y cyhoedd i gyfrif ac i anfon lluniau o bryfed y maent yn eu gweld.

Dywedodd Andrea Rowe, swyddog cadwriaethol elusen Butterfly Conservation yng Nghymru, y gallai'r cyhoedd fod o gymorth mawr gan nad yw gwyddonwyr yn gallu cynnal arolygon.

Asesu newid hinsawdd

"Ry'n yn gofyn i unrhyw un sy'n gallu mynd i ardd neu barc neu sy'n mynd allan tra'n ymarfer i edrych am ieir bach yr haf er mwyn ein helpu gyda'n gwyddoniaeth.

"Petaen ni'n gallu cael lot o bobl i anfon mwy o ddata o ardaloedd gwledig ehangach a llefydd ry'n ni ddim yn mynd iddynt fel arfer - fe fyddai hynna'n ddefnyddiol iawn," meddai.

Ychwanegodd bod monitro ieir bach yr haf yn helpu gwyddonwyr i asesu effeithiau newid hinsawdd.

"Wrth i'n gwanwyn ddod yn fwy cynnes mae rhai rhywogaethau yn crwydro i fannau eraill.

"Fel arfer roedd rhai mathau ond i'w gweld yn ne ddwyrain Lloegr ond bellach maent i'w gweld mewn ardaloedd mwy gogleddol ac ry'n wedi dechrau gweld gloÿnnod byw yn gynharach yn y flwyddyn.

"Wrth gofnodi rhai mathau o ieir bach yr haf - ry'n ni wedyn yn gallu cymharu niferoedd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryfed yn symud paill o'r anther gwrywaidd i'r stigma benywaidd

Mae elusen Butterfly Conservation wedi sefydlu ap ffôn i helpu pobl i adnabod a rhoi manylion am loynnod byw ac mae modd hefyd ei .

Dywedodd yr Athro Helen Roy o Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU sef y ganolfan sy'n gyfrifol am y cynllun monitro pryfed bod data am bryfed fel gwenyn a gloÿnnod byw yn "hynod werthfawr".

"Mae'r data," meddai, "yn rhoi tystiolaeth i'r llywodraeth am lwyddiant gwahanol fesurau cadwriaethol.

"Be sy'n rhaid i'r cyhoedd ei wneud yw eistedd a gwylio patsh o flodau am ddeg munud a chofnodi manylion am unrhyw bryfyn sy'n glanio ar y blodau yna."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae niferoedd gwenyn Prydain wedi gostwng draean

Ychwanegodd Dr Roy bod hi'n bosib i bobl gyfri yr un pryfyn fwy nag unwaith gan y gall gwyddonwyr ganfod eu hunion niferoedd wrth ddadansoddi'r data.

"Mae hyd yn oed cofnodi unrhyw bresenoldeb, rhywun yn dweud bod y pryfyn yna yn fy ngardd i yn gallu bod yn ddefnyddiol," ychwanegodd.