Gyda'n gilydd o bell: 10 perfformiad ar-lein i godi calon

Ffynhonnell y llun, Band Pres Llareggub

Wrth i bobl ar draws y byd aros yn eu tai, mae corau, bandiau a grwpiau cerdd adnabyddus wedi darganfod ffyrdd newydd o'n diddanu.

Ar raglen Bore Cothi heddiw ar Radio Cymru fe wnaeth y cyfansoddwr Richard Vaughan gyhoeddi manylion prosiect Cerddwn Drwy'r Tywyllwch, sef ymgais i greu rhith-gôr enfawr ar draws Cymru.

Mae digon o gyfle i fwynhau perfformiadau gwych wedi bod hyd yma. Dyma 10 fydd yn codi gwên, y cyfan wedi eu recordio o bell.

Band Pres Llareggub

Ym mis Mai fe fydd hi'n 20 mlynedd ers i'r Super Furry Animals ryddhau Mwng - eu halbym wnaeth gyrraedd y siartiau Prydeinig yn 2000.

I nodi hynny, ac er mwyn dod ag offerynwyr o bob oed at ei gilydd, mae Band Pres Llareggub wedi cynhyrchu fersiwn unigryw o Ysbeidiau Heulog.

Côr CF1

Mae Baba Yetu yn un o ganeuon adnabyddus côr CF1, a'r fersiwn drawiadol yma wedi ei recordio tra bod yr aelodau ar wahân.

Yn ôl Eilir Owen Griffith, arweinydd y côr: "Roedden ni eisiau gwneud rhywbeth i ddod â phawb ynghyd unwaith eto - nid yn unig i ganu, ond hefyd i ddiolch i'r rheiny sy'n gweithio mor galed bob dydd i'n cadw ni'n ddiogel."

I osgoi neges YouTube, 1
Caniatáu cynnwys Google YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Google YouTube a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges YouTube, 1

Bwncath

Roedd Bwncath wedi bwriadu bod yn brysur yn gigio mewn gwyliau cerddorol trwy gydol yr haf, yn enwedig ar ôl rhyddhau eu hail albwm ym mis Mawrth.

Ond fel perfformwyr eraill mae'r band wedi gorfod addasu. Bydd y fersiwn hudolus yma o Aberdaron, gafodd ei recordio fel rhan o Sesiynau Tŷ Radio Cymru, yn siŵr o'ch gwneud yn awyddus i weld y band yn perfformio'n fyw pan ddaw'r cyfle cyntaf posib.

I osgoi neges YouTube, 2
Caniatáu cynnwys Google YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Google YouTube a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges YouTube, 2

Lewys

Mae Lewys yn fand ifanc arall oedd yn disgwyl perfformio ar draws y wlad eleni, ond dyw'r sefyllfa bresennol heb eu hatal rhag cyhoeddi cerddoriaeth newydd.

Cafodd y fersiwn aml-gamera yma o'u sengl Hel Sibrydion ei recordio yng nghartrefi'r aelodau.

I osgoi neges YouTube, 3
Caniatáu cynnwys Google YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Google YouTube a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges YouTube, 3

°äô°ù»å²â»å»å

Dyma rhith-gôr arall sydd wedi cyfuno lleisiau o bell yn fedrus, y tro hwn gyda pherfformiad o'r gân anthemig O Gymru gyda Caryl Parry Jones.

Dyhead y côr yw "bydd y gân yn cynnig gobaith i Gymru ac yn nodi'r wlad fel ein heulwen wrth i bawb obeithio y daw eto haul ar fryn."

I osgoi neges YouTube, 4
Caniatáu cynnwys Google YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Google YouTube a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges YouTube, 4

The Welsh of the West End

Steffan Rhys Hughes ddaeth â'r criw yma o sêr ifanc o fyd y sioeau cerdd at ei gilydd, ac mae'r perfformiadau wedi eu gwylio degau o filoedd o weithiau yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Mae'r perfformiad dwyieithog yma o gân o sioe The Greatest Showman yn cynnwys lleisiau cyfarwydd Mared Williams, Sophie Evans, Tom Hier a mwy.

I osgoi neges YouTube, 5
Caniatáu cynnwys Google YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Google YouTube a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges YouTube, 5

Côr Ieuenctid Môn

Cafodd y perfformiad yma gan Gôr Ieuenctid Môn ei gyhoeddi i dudalen , sydd wedi dal dychmyg a chynnig adloniant i filoedd yn ystod y cyfnod o hunan ynysu.

Dyma berfformiad o bell o Yn y Bore gan Ryan Davies.

I osgoi neges Facebook

Mae’n flin gennym ein bod yn cael trafferth dangos y post hwn.

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Diwedd neges Facebook

Ensemble Cambrica

Fe ddaeth y perfformiad uchelgeisiol hwn ag offerynwyr cerddorfaol ynghyd ar-lein i berfformio Calon Lan ac mae'r canlyniad yn wefreiddiol.

Nid dyma'r tro olaf byddwn yn clywed Calon Lan wedi ei pherfformio o bell chwaith. Mae Rhys Meirion wrthi'n cydweithio gydag er mwyn ei chanu ar raglen arbennig fydd ar S4C ym mis Mai.

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹ԼÅÄ wedi bod yn brysur hefyd, gan gyhoeddi perfformiadau creadigol o gartrefi eu cerddorion. Mae eu cynllun 'Gwnewch Offeryn' yn annog pobl i greu offerynnau cerdd o ddeunyddiau sydd o gwmpas y tÅ·.

I osgoi neges YouTube, 6
Caniatáu cynnwys Google YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Google YouTube a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges YouTube, 6

Côr y Gleision

Mae corau'r brifddinas wedi bod yn brysur! Tra bod Geraint Thomas yn cwblhau ei her seiclo er mwyn codi arian at elusennau sy'n ymateb i argyfwng coronafeirws, daeth Bechgyn Bro Taf ynghyd i'w gefnogi gyda dehongliad o .

Mae Côr y Gleision hefyd wedi bod yn gynhyrchiol, gyda pherfformiad hudolus o Pan Fo'r Nos yn Hir gan Ryan Davies.

I osgoi neges YouTube, 7
Caniatáu cynnwys Google YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Google YouTube a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges YouTube, 7

Y Ffoaduriaid

Na, nid côr yw'r Ffoaduriaid fel arfer ond tîm sy'n cystadlu yn Nhalwrn y Beirdd, Radio Cymru. Ond fe wnaeth y tîm roi cynnig ar gân o bell ar y testun 'Dyddiad Cau'.

Does dim amheuaeth y cawn weld ambell un o'r rhain yn y sefyll ar eu traed yn y Pafiliwn rhyw ddydd, ond am y tro fe wnawn ni foddhau ar eu gwylio o adref!

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Hefyd o ddiddordeb: