Bywyd 'diflas' heb ddulliau cyfathrebu dibynadwy

Disgrifiad o'r llun, Does dim cysylltiad band eang cyflym na signal ffôn dibynadwy ym mhentref Pandy

Mae pobl mewn pentref yn Nyffryn Ceiriog yn dweud eu bod yn poeni eu bod wedi cael eu hanghofio yng nghanol yr argyfwng coronafeirws am nad oes ganddyn nhw gysylltiad dibynadwy gyda gweddill y byd.

Yn ôl trigolion Pandy maen nhw'n derbyn cyflymderau band eang o thua 1MB neu lai, ac mae eu signal ffôn symudol yn gyfyngedig a heb 4G.

Mae rhai'n poeni nad ydyn nhw'n gallu cadw mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau yn ystod y cyfnod pryderus.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod wedi gwario £200m yn ehangu'r rhwydwaith band eang cyflym ac nad yw gwasanaethau ffôn wedi'i ddatagnoli.

'Rhwystredig iawn'

Dywedodd un o'r pentrefwyr, Alison Bendall: "Mae'n rhwystredig iawn - alla i ddim fynd ar Facetime gyda fy wyrion oherwydd bod eu hwynebau'n rhewi.

"Mae'n anodd pan fydd gennych wyres newydd na allwch ei gweld yn iawn, heblaw am mewn lluniau.

"Does gennym ni ddim unrhyw deledu daearol, dim signal ffôn symudol iawn o gwbl.

"Felly, rydyn ni wedi torri i ffwrdd ychydig mewn gwirionedd, heb y rhyngrwyd."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Alison Bendall mai Pandy ydy'r "unig ardal fach lle mae BT wedi ei adael"

Dywedodd Ms Bendall hefyd ei bod hi'n "anodd iawn ar hyn o bryd, oherwydd y cyfyngiadau".

Mae hi'n gweithio fel cwnselydd ysgol i Gyngor Sir Ddinbych.

"Mae'n rhwystredig iawn nad ydw i'n gallu cyfathrebu'n effeithiol â'r plant a'r bobl ifanc bregus hyn," meddai.

"Byddai'n hyfryd gallu eu gweld, iddyn nhw fy ngweld i a chael cysylltiad rhyngrwyd da fel y gallwn barhau â'n cwnsela, er y cyfyngiadau, a chynnig y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt."

'Hollol ddiflas'

Dywedodd fod pobl yr ardal yn gwybod mai eu dewis nhw oedd byw mewn lleoliad gwledig, ond ychwanegodd fod rhannau eraill o'r dyffryn wedi'u cysylltu â chyflymder band eang ffibr cyflymach.

"Dyma'r unig ardal fach lle mae BT wedi ei adael mewn gwirionedd," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Bob Savage ei bod yn "hanfodol cael signal band eang da"

Mae un o'i chymdogion, Bob Savage, yn arbenigwr ar wneud caws, sydd fel arfer yn teithio dramor yn aml, ond sydd nawr yn ceisio gweithio o adref.

"Bore 'ma, roeddwn i'n cynnal cyfarfod rhwng Sweden, Denmarc a'r Iseldiroedd... ac mae'n rhewi, ac rydw i'n cael blwch neges fach yn y gornel yn dweud 'ansawdd rhwydwaith gwael, ceisiwch newid i rwydwaith arall', ac ar ddiwedd y dydd does dim rhwydwaith arall!"

Dywedodd Mr Savage, am fod pobl yn cael trafferth yn yr ardal i dderbyn teledu daearol yn ogystal â radio FM, ei bod yn fwy "hanfodol cael signal band eang da fel y gallwn gyfathrebu'n ddibynadwy yn yr 21ain Ganrif".

Dywedodd ei gymydog, Joy Constable: "Mae bywyd heb gysylltiad band eang da yn hollol ddiflas. Allwch chi ddim dibynnu arno.

"Dydych chi ddim yn gwybod pa mor hir y bydd i we yn mynd i ffwrdd, oherwydd mae'n anwadal yma."

Addo gwelliannau

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi gwario £200m ar ehangu rhwydwaith band eang cyflym a chynlluniau eraill.

Ychwanegodd llefarydd nad yw gwasanaethau ffôn wedi datganoli, a phe bai hynny'n "cael ei adael i gwmnïau masnachol ni fyddai cysylltiad band eang cyflym tu allan i'r prif ddinasoedd".

"Mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn edrych ar lefydd fel Pandy ac yn sicrhau bod eu buddsoddiadau diweddar mewn band eang a chyswllt ffôn yn cael ei flaenoriaethu ar Gymru," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod wedi ymrwymo i gael gwared ar y gwahaniaethau rhwng ardaloedd dinesig a gwledig.

Mae'n hanfodol, meddai, fod "pob rhan o Gymru'n cael y cysylltedd angenrheidiol i ffynnu yn y dyfodol".

Ychwanegodd y bydd Cymru'n elwa o "rai o'r gwelliannau mwyaf" yn sgil y £5bn a gafodd ei neilltuo i wella cysylltiadau band eang yn y mannau mwyaf anghysbell.