鶹Լ

Datgelu pwy ydy 'arwr' yr ystadegau

  • Cyhoeddwyd
lloydFfynhonnell y llun, lloydwarburton

Bob dydd am 3pm ers 10 Mawrth mae ystadegau yn cael eu cyhoeddi sy'n mesur lle rydan ni'r Cymry'n sefyll yn y frwydr yn erbyn Covid-19.

Mae'r ystadegau'n ymddangos yn ddyddiol mewn ffurf tabl cryno a syml sy'n dangos y cynnydd neu'r gostyngiad yn yr achosion o'r feirws dros nos ymhob un o awdurdodau iechyd Cymru, ac hefyd nifer y marwolaethau ymhob rhanbarth. Hyn i gyd ar ffurff gwybodaeth hawdd i'w ddeall a'i ddehongli.

Ond nid swyddfa ystadegau swyddogol, na chwaith unrhyw fudiad gwirfoddol neu fusnes sydd y tu ôl i'r gwybodaeth werthfawr, ond bachgen ysgol sy'n gweithredu'r .

Ac yntau'n ddim ond 16 oed roedd Lloyd Warburton wedi bod yn paratoi at sefyll ei arholiadau TGAU. Ond â rheiny bellach wedi eu canslo, mae Lloyd wedi defnyddio'r holl amser rhydd annisgwyl i gynnig gwasanaeth gwerthfawr i'r genedl - a hynny'n rhad ac am ddim.

"Rydw i wedi penderfynu gwneud hyn oherwydd doedd neb arall yn creu rhywbeth tebyg. Roedd wastad gen i ddiddordeb cryf mewn ystadegau a mapiau, ac ar ôl i'r achosion yng Nghymru ddechrau cynyddu, penderfynais i greu tabl a map syml iawn, gan ddefnyddio PowerPoint a Paint. Dim ond hobi oedd o ar y pryd."

Ffynhonnell y llun, lloyd warburton

Ar adeg pan mae miloedd o bobl Cymru a thu hwnt eisiau gwybodaeth drylwyr, gywir a chyfredol mewn un lle, mae Lloyd Warburton wedi dod yn dipyn o arwr.

Yn y cyfnod yma mae wedi ennill miloedd o ddilynwyr ar Twitter ac erbyn hyn mae ganddo dros 8,000 yn ei ddilyn. Er nad yw'n derbyn ceiniog am ei waith mae dros 180 o bobl eisoes wedi ei dalu mewn paneidiau ac wedi 'prynu paned o goffi' iddo ar ei wefan fel arwydd o ddiolch a chefnogaeth.

Ond erbyn hyn, mae'r hobi wedi dod yn arfer dyddiol. Ydi, mae'n gweithio gyda ffigyrau swyddogol, ond fel diddordeb yn unig mae'n casglu a chyflwyno'r data.

"Am tua 2 o'r gloch bob brynhawn, rydw i'n ymweld â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC). Cyn gynted ag bydd y rhifau yn cael eu cyhoeddi, rydw i'n rhoi nhw ar fy ngwefan mewn ffurf hawdd ei ddarllen, gyda mapiau a graffiau yn dangos y wybodaeth yn glir a chryno.

"Weithiau, mae'r ffordd mae ICC yn cyhoeddi'r data yn newid, felly mae rhaid i mi addasu'r wefan neu'r sleidiau. Ar ôl diweddaru'r wefan, rwy'n mynd ati i greu sleid. Rydw i dal i ddefnyddio PowerPoint a Paint oherwydd maen nhw mor hawdd i ddefnyddio a newid beth bynnag sydd angen."

Yn sgil ei waith mae'r bachgen o ardal Aberystwyth wedi ennill ei blwyf ar y cyfryngau cymdeithasol fel ffynhonnell ddibynadwy o ffeithiau. Mae pobl yn troi ato am farn ystadegol tra bod eraill yn canmol ei waith o greu platfform cwbl newydd lle nad oedd y wybodaeth yn cael ei gyflwyno fel hyn yn unman arall ar y we.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Paul Matthews

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Paul Matthews

Beth felly sydd wedi denu bachgen ifanc at y fath waith pwysig yn ystod y pandemig? Ai diddordeb mewn iechyd ynteu'r ystadegau eu hunain yw'r apêl?

"Y ddau i ddweud y gwir," meddai Lloyd. "Ers dechrau TGAU, mae Bioleg wastad wedi sefyll mas fel un o fy hoff bynciau, ond ni fyddwn yn gwneud hyn heb ddiddordeb mewn mathemateg ac ystadegau hefyd. Yn 2015, 2017 a 2019, mi wnes i ychydig o waith gydag ystadegau canlyniadau etholiadau, felly mae rhywbeth wedi fy niddori am ystadegau ers i mi fod yn blentyn ifanc."

Dywedodd un o ffrindiau Lloyd: "Rydw i'n reit falch yn gweld Lloyd yn cael cydnabyddiaeth am ei ddiweddariadau dyddiol ar y Covid-19. Am yr holl ymdrech mae o wedi rhoi i mewn i allu helpu'r wlad, mae'n haeddu'r enwogrwydd mae o wedi ei dderbyn."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Lloyd🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 (🏠)

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Lloyd🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 (🏠)

Ac mae ei fam, Donna, hefyd yn hynod o falch ohono a'r ffordd bositif mae o'n treulio ei amser yn sgil y siom o beidio sefyll ei arholiadau TGAU. "Mae ei allu i roi data mewn ffurf hawdd ei ddarllen yn drawiadol," meddai. "Mae'r sylw mae ei waith wedi ei dderbyn wedi bod yn syfrdanol."

Meddai Lloyd: "Fy mhrif ddiddordebau fel arfer yw gwleidyddiaeth, awyrennau ac, wrth gwrs, mapiau. Mae hefyd gen i ddiddordeb yn codio, ond dydw i ddim yn dda iawn arno! Fel TGAU, rydw i'n gwneud yr holl bynciau craidd (gan gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf) a dewisais Daearyddiaeth, TGCH (Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu) a Ffrangeg i fynd gyda nhw. Rydw i'n disgwyl canlyniadau gwych ym mis Awst!"

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 3 gan Lloyd🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 (🏠)

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 3 gan Lloyd🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 (🏠)

Ac o gymryd y bydd y canlyniadau'n plesio fis Awst, beth yw'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

"Ym mis Medi, rydw i am ddechrau lefelau-A mewn Bioleg, Daearyddiaeth, Cymdeithaseg a, gobeithio, Ffiseg. Ar ôl hynny, gobeithio mynd i brifysgol a chael swydd dda, ond does gen i ddim cynllun pendant ar ôl lefelau A."

Hefyd o ddiddordeb: