Cyflenwadau PPE: Galw am ymchwiliad Ewropeaidd

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi ysgrifennu at Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd yn gofyn i'w swyddfa ymchwilio i honiadau fod Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi dweud wrth gwmnïau PPE i beidio â gwerthu rhai nwyddau y tu allan i Loegr.

Yn ei lythyr at Ursula von der Leyen, mae Adam Price yn cyfeirio at adroddiadau yn y wasg fod cwmnïau wedi gwrthod archebion o gartrefi gofal yng Nghymru am offer PPE, gan ddweud eu bod wedi cael cyfarwyddyd i flaenoriaethu cartrefi yn Lloegr.

Mae Llywodraeth Yr Alban wedi derbyn cwynion tebyg gan gartrefi gofal yno.

Ond mae Llywodraeth y DU wedi dweud nad oes blaenoriaeth yn cael ei roi i gartrefi gofal yn Lloegr.

Dywedodd Mr Price ei fod wedi gwneud cwyn ffurfiol i'r Comisiwn Ewropeaidd.

Yn ôl Mr Price mae rheolau'r Comisiwn Ewropeaidd dal mewn bodolaeth nes fod y DU yn gadael yr UE yn derfynol.

"Mae'r rheolau yn dweud yn glir 'na ddylai gwledydd atal na rhwystro gwerthu nwyddau PPE neu cyfarpar PPE ar y farchnad," meddai.

Mewn cynhadledd newyddion ddydd Mawrth dywedodd gweinidog iechyd Cymru, Vaughan Gething, bod ceisiadau o Loegr am gyfarpar diogelwch PPE yn gorlenwi'r farchnad archebion, wrth i gartrefi gofal yng Nghymru geisio sicrhau'r cyfarpar priodol i staff.

Dywedodd Mr Gething fod y budd gorau i Gymru yn y cytundeb prynu sy'n bodoli ar draws y DU.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Er hynny, fe roddodd enghreifftiau o gyflenwyr cyfarpar PPE yn dweud wrth fusnesau yng Nghymru na fyddan nhw'n delio gyda chwmnïau o Gymru, a hynny mewn cyfarfod o weinidogion iechyd cenhedloedd y DU.

Yn y cyfarfod hwnnw fe ddywedodd ei fod wedi pwysleisio'r pwysigrwydd fod Cymru'n derbyn ei chyfran deg o gyfarpar yn ôl maint y boblogaeth, a'r posibilrwydd o ardaloedd gwahanol yn cefnogi ei gilydd os bydd prinder yn codi mewn un ardal arbennig, gyda digonedd mewn ardal arall.