Â鶹ԼÅÄ

'Mae popeth yn anodd': Profiad meddyg uned gofal dwys

  • Cyhoeddwyd
Ceri Lynch
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceri Lynch yn Ymgynghorydd Gofal Dwys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

"Arhoswch adref a helpwch ni i'ch helpu chi" - dyna'r neges gan staff Ysbyty Brenhinol Morgannwg wrth i benwythnos y Pasg agosáu.

Mae staff yr ysbyty, fel gweithwyr iechyd ar draws Cymru, wedi bod wrthi'n gweithio ddydd a nos yn ystod y pandemig coronafeirws er mwyn trin cleifion.

Ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg mae 36 o gleifion yn cael eu trin yn eu hunedau gofal dwys, a 112 o gleifion Covid-19 ar wardiau eraill.

Un o'r staff sydd wedi bod yn gweithio ar y wardiau hynny yw Ceri Lynch, Ymgynghorydd Gofal Dwys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Mae hi wedi bod yn sôn wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru am yr heriau o weithio ar y llinell flaen, y pwysau ar staff, a'r pellter y mae'n rhaid iddi gadw oddi wrth ei theulu ei hun yn ystod y cyfnod yma.

Pa mor brysur yw pethau?

"Mae'r uned yn llawn. Mae yna lot o gleifion yno. Ni'n brysur iawn.

"Mae'r cleifion yn wahanol, mae rhai yn ifanc ac mae rhai yn hÅ·n. Roedd rhai yn iach cyn cael y feirws ond maen nhw'n debyg, maen nhw yr un peth gyda'r feirws; angen ocsigen a ventilatory support.

"Mae rhai pobl wedi marw yn barod. Mae'n gwneud i mi deimlo'n drist."

Sut beth yw gweithio ar y ward?

"Mae'n anodd, mae popeth yn anodd. Ti'n teimlo'n boeth iawn, ti ddim yn gallu gweld na chlywed yn iawn.

"Mae cyfathrebu yn anodd achos mae'n amhosib gweld wynebau.

"Mae pawb yn strugglo weithiau. Mae rhai pobl yn strugglo yn fawr gyda'r gwres a chlawstroffobia - mae'n anodd."

Ffynhonnell y llun, Nerys Conway
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r neges gan staff Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn un clir

Oes digon o adnoddau gennych chi?

"Ni'n llawn nawr [10 o wlâu ar y ward] ac rydyn ni wedi paratoi wardiau gofal dwys eraill [gyda 70 o wlâu ychwanegol].

"Does dim digon o staff gyda ni ar y foment ond mae nyrsys yn symud o wardiau eraill ac mae pawb yn awyddus iawn i ddysgu sgiliau newydd a helpu'r cleifion."

Ydy hyn wedi rhoi straen personol arnoch chi?

"Dwi'n iawn, dwi'n hapus achos dwi'n mwynhau fy swydd a dwi'n mwynhau gwneud fy swydd, edrych ar ôl y cleifion.

"Ond mae'n anodd i'r teulu, maen nhw'n becso amdana i. Maen anodd, mae pawb yn gweithio mwy. Dwi'n gweithio dyddiau hir a shifftiau nos, dwi wedi blino.

"Does dim cwtshys yn tŷ ni nawr, dwi'n cysgu yn yr ystafell wely sbâr ac mae fy mhlant i'n drist."

Beth yw'r neges gennych chi?

"Os gwelwch yn dda, arhoswch adref. Arhoswch yn saff.

"Os gwelwch yn dda, peidiwch â mynd allan dros y Pasg, peidiwch dal y feirws a pheidiwch â gwasgaru'r feirws.

"Helpwch ni i'ch helpu chi."