Â鶹ԼÅÄ

Taith i'r llyfrgell... o adref

  • Cyhoeddwyd
amgueddfa

Mae bod yn y tÅ· drwy'r dydd am wythnosau yn gallu teimlo'n hynod ddiflas, ac mae angen dihangfa o bryd i'w gilydd. Mae llawer ohonom yn trio dysgu pethau newydd; rhyw sgil neu grefft fydd yn adnodd i'r dyfodol.

Gyda chymaint o fannau cyhoeddus ar gau dydi'r Llyfrgell Genedlaethol ddim yn rhywle all rhywun ddianc iddi ar hyn o bryd. Ond mae'r adnoddau mae'r llyfrgell yn ei gynnig ar-lein dal ar gael.

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae'r Llyfrgell wedi bod yn brysur yn digideiddio ei chasgliad, ac o ganlyniad, mae yna dros bum miliwn o adnoddau digidol ar gael am ddim ar .

Mae'r casgliadau sydd ar gael yn cynnwys llyfrau, llawysgrifau, archifau, mapiau, lluniau a ffotograffau.

Ffynhonnell y llun, y llyfrgell genedlaethol

Hel achau

Mae modd i chi ddefnyddio'r amser hwn i wneud rhywfaint o ymchwil i hanes y teulu.

Gall y Llyfrgell gynnig cyngor arbenigol ar sut i , chwilio a gweld eu am ddim.

Hefyd gallwch chwilio am eich hynafiaid ymhlith yr - pwy a ŵyr pa straeon cudd y dewch chi o hyd iddynt ymhlith y 15 miliwn o erthyglau sy'n dyddio o 1804 i 1919!

Hanes lleol

Efallai eich bod gennych eisiau gwybod mwy am eich tÅ· neu'ch ardal leol?

Mae yn lle gwych i ddechrau. Yma gallwch bori dros 300,000 o . Gallwch weld y mapiau eu hunain a'r dogfennau pennu cysylltiedig a'u cymharu â mapiau mwy modern- pwy oedd yn berchen ar eich tŷ a sut y defnyddiwyd y tir yn y gorffennol.

Ffynhonnell y llun, Y LLYFRGELL GENEDLAETHOL

Mae yna hefyd 1.2 miliwn o dudalennau o yn dyddio rhwng 1735-2007, o dros 450 o gyfnodolion gwahanol, i'ch helpu gydag ymchwil hanes lleol.

Dysgu o gartref

Mae yn cynnig llawer o adnoddau addysgol am ddim ac mae yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, o Dywysogion Cymru i'r Ail Ryfel Byd, i gelf ac ysbrydoli creadigrwydd.

Ac yn ystod amser chwarae, beth am roi cynnig ar yr Her Adeiladu Digidol ac ail-greu Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan ddefnyddio Minecraft, Lego neu unrhyw gêm floc arall?

Bydd fideos, cynlluniau llawr, dimensiynau a lluniau, i , yn eich helpu ar hyd y ffordd.

Ymlacio

Wedi cael digon o ymchwil a dysgu? Gallwch hefyd gymryd hoe gyda'r Llyfrgell Genedlaethol.

Gadewch i'w gweithiau celf hardd eich ysbrydoli. Chwiliwch drwy'r neu bori bron i 2000 o weithiau celf sydd eu casgliadau trwy .

Ffynhonnell y llun, Y LLYFRGELL GENEDLAETHOL

Mae hefyd casgliad o hen ffotograffau a ffilmiau ar gael am ddim ar-lein. Mae'n bosib chwilio drwy'r casgliad , , ac mae dros sydd ar gael i'w gwylio am ddim .

Dod ag arddangosfeydd i'ch stafell fyw

Gallwch hyd yn oed fwynhau arddangosfeydd digidol o gysur eich cartref eich hun, gan ddysgu am fyd llenyddol yr artist Paul Peter Piech trwy ymweld â'r arddangosfa ar-lein sydd ar gael ar wefan ac mae ac hefyd yn barod i chi eu darganfod.

Ffynhonnell y llun, y llyfrgell genedlaethol

Os ydych chi'n mwynhau gwleidyddiaeth, dysgwch fwy am y cyn neu bori .

Ffynhonnell y llun, Y LLYFRGELL GENEDLAETHOL

Felly os yw aros gartref yn teimlo'n ofnadwy o heriol ar adegau, cymerwch olwg i weld os all fod o gymorth.

Hefyd o ddiddordeb: