Haint yn gorfodi ffermwyr i gael gwared â'u llaeth

Disgrifiad o'r llun, Mae'r sefyllfa'n dorcalonnus, medd Llyr Griffiths

Mae nifer o ffermwyr wedi gorfod cael gwared ar eu llaeth dros y dyddiau diwethaf oherwydd argyfwng coronafeirws, gydag un yn disgrifio'r sefyllfa fel "torcalonnus".

Mae'r ffermwyr y mae rhaglen Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi siarad gyda nhw yn gwerthu eu llaeth i gwmni Freshways.

Mae'r cwmni hwnnw yn cyflenwi i gwmnïau awyrennau a siopau coffi mawrion, sydd bellach ar gau.

Bu'n rhaid i un ffermwr yng Ngheredigion gael gwared â miloedd o litrau o laeth ffres dros y Sul.

Fe ddaeth y tancer llaeth ddydd Llun, ond does dim sicrwydd a fydd yn dychwelyd i gasglu llaeth ddydd Mawrth yr wythnos yma.

Dywedodd Llyr Griffiths, sy'n ffermio yn Llangoedmor: "Mae'n dorcalonnus gorfod gwaredu'r llaeth. Ni'n gweithio mor galed.

"Wedd e'n upsetting... a digwyddodd popeth ar gymaint o fyr rybudd. Gorfon ni daflu gwerth £3,000 o laeth mewn hanner awr. Sai'n beio Freshways am hyn - mae angen i'r llywodraeth ddod mewn i helpu nhw a'r ffermwyr."

Mae ffermwyr sydd mewn cytundeb gyda chwmni Freshways eisoes wedi gweld gostyngiad o 2c y litr ym mhris eu llaeth.

Mae eu taliad hefyd wedi ei ddal yn ôl tan ganol Mai, medd y ffermwyr.

Ffynhonnell y llun, Llyr Griffiths

Disgrifiad o'r llun, Llaeth yn cael ei arllwys i ffwrdd ar fferm Llyr Griffiths

Wrth i laeth gael ei waredu ar ffermydd - mae adroddiadau fod rhai archfarchnadoedd a'u silffoedd yn brin o laeth.

Mae Brian Walters yn ffermwr llaeth a hefyd yn gyn-swyddog undeb.

Dywedodd wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru: "Mae 'na gynnydd yn yr archfarchnadoedd, lle mae mwy o ddemand am laeth fan hynny a mwy o ddemand am gaws, ac felly mae rhai cwmnïoedd yn gwerthu yn iawn a gwerthu rhagor nag arfer, a'r gweddill wedyn yn diodde'.

"A na'r broblem 'da ni, mae 'da ni gymaint o wahanol gwmnïoedd ac maen nhw falle yn methu cal trefn i symud llaeth o un i'r llall."

Ychwanegodd: "Os ydy'r proseswyr sy'n delio gyda llaeth liquid lan i'r limit, mae'n anodd iddyn nhw wedyn i gymryd rhagor mewn, lle oedd y llaeth yna i fod i fynd i'r awyrennau neu'r siopau coffi".

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi cysylltu â chwmni Freshways ond doedd neb ar gael i wneud sylw.

Llywodraeth

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi ysgrifennu at adran materion gwledig San Steffan yn pwysleisio'r angen i gyd-weithio er mwyn gwarchod y gadwyn fwyd.

Dywedodd adran amaeth Defra yr wythnos ddiwethaf ei bod yn edrych ar ffyrdd o ailgyfeirio cyflenwadau o laeth o siopau coffi, a bwytai i archfarchnadoedd.

Neges Mr Griffiths a nifer fawr o ffermwyr ydy bod angen iddyn nhw weithredu ar frys, er lles dyfodol y diwydiant llaeth.