Clwb Pêl-droed Y Rhyl angen £175,000 i osgoi mynd i'r wal

Ffynhonnell y llun, Kevin Barnes - CameraSport

Disgrifiad o'r llun, Mae stadiwm Belle Vue Y Rhyl wedi cynnal gemau pêl-droed ers 1900

Mae Clwb Pêl-droed Y Rhyl yn dweud eu bod angen dod o hyd i fuddsoddiad o £175,000 erbyn canol y mis i osgoi gorfod dirwyn y clwb i ben.

Mae swyddogion y clwb yn dweud fod tri buddsoddwr posibl wedi bod mewn cysylltiad ers iddyn nhw gyhoeddi fis diwethaf eu bod mewn trafferthion ariannol, ond mai dim ond un ohonynt sy'n edrych fel eu bod o ddifrif.

Gan fod gemau cynghrair JD Cymru North wedi eu gohirio oherwydd y pandemig coronafeirws, dydy'r clwb ddim yn derbyn incwm rheolaidd ar hyn o bryd.

Mae'r clwb yn gofyn i unrhyw un allai fuddsoddi "lleiafswm o £175,000" i gysylltu â'r clwb ar frys.

"Er mwyn rhoi pob cyfle a gobaith i'r clwb oroesi, mae'r cadeirydd wedi cytuno i ymestyn y dyddiad cau nes 17:00 ar 17 Ebrill," meddai'r clwb mewn datganiad.

"Ar ôl hynny a gydag amser, os nad oes buddsoddiad allanol, bydd yr opsiwn difrifol o ddirwyn y clwb i ben yn dod yn realiti i'r clwb."

Cafodd y clwb ei sefydlu yn 1879, ac maen nhw wedi ennill Uwch Gynghrair Cymru ar ddau achlysur.