Profion cornafeirws yn 'fater i Lywodraeth Cymru'

Mae Ysgrifennydd Cymru Simon Hart wedi dweud bod y cwestiynau ynglŷn â methiant cytundeb i gael profion Covid-19 ychwanegol i Gymru yn un i weinidogion Cymru.

Daw'r sylwadau wedi i Lywodraeth Cymru ddweud bod ganddyn nhw gytundeb gyda chwmni fferyllol o'r Swistir o'r enw Roche, i ddarparu 5,000 o brofion ychwanegol bob dydd yng Nghymru.

Mae Roche yn mynnu na fu "erioed gytundeb na dealltwriaeth uniongyrchol â Chymru" er mwyn darparu profion coronafeirws, ac mai eu blaenoriaeth nhw oedd "cefnogi llywodraeth y DU a'r GIG i gynyddu'r profion ar draws y DU, gan gynnwys Cymru".

Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb, sydd nawr yn cadeirio Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan, wedi ysgrifennu at Mr Hart yn dweud bod methiant honedig y cytundeb yn codi cwestiynau ynglŷn â'r "cydlynu a chydweithio rhwng San Steffan a Bae Caerdydd yn y ffordd mae profion ac offer allweddol yn cael eu prynu".

Rhannu 'ar sail angen'

Dywedodd Mr Hart wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru fod y "trefniant rhwng y cwmni a Llywodraeth Cymru wedi ei drefnu gan y cwmni hwnnw a Llywodraeth Cymru, ac fe gyfeiria i Stephen atyn nhw".

Fe ddywedodd Mr Hart ei fod yn credu y dylai'r offer profi sy'n cael ei brynu'n ganolog gan y DU gael ei ddosbarthu ar sail angen, nid maint y boblogaeth.

Mae gan Gymru 4.7% o'r boblogaeth, ond 6% o achosion Covid-19 ar hyn o bryd.

Yn ôl Mr Hart mae'n "fater o sicrhau fod gan bob gwlad yr hyn sydd ei angen arnyn nhw".

"P'un ai'n bod ni'n trafod offer gwarchod gweithwyr, peiriannau anadlu, cyffuriau, neu offer profi, y peth pwysig yw cael gymaint ohono i mewn i'r DU a phosib, ac i'r holl ardaloedd gwahanol hynny," meddai.

"Mae rhannau o Gymru lle mae'r angen ar hyn o bryd yn fwy. Gallai hynny newid yn ystod yr wythnosau sydd i ddod.

"Wrth gwrs ein bod ni'n edrych ar hyn o safbwynt blaenoriaethu ac angen lle bo'r problemau mwyaf."