'Wyt ti a dad yn mynd i fod yn sâl?' - Pryder plant am Covid-19

Ffynhonnell y llun, Eurgain Haf

Disgrifiad o'r llun, Mae Eurgain Haf a'i theulu'n mwynhau treulio mwy o amser gyda'i gilydd, er heriau'r angen i ymbellhau yn gymdeithasol

Mae iechyd a lles meddyliol plant yn bryder mawr i nifer o rieni, yn ôl ymchwil gan elusen Achub y Plant, yn ystod pythefnos cyntaf y gorchymyn i bobl aros adref i atal lledaeniad coronafeirws.

Yn ôl yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel yr "arolwg cyntaf o'i fath", dywedodd 58% o'r atebwyr ar draws y DU fod eu plant yn ofni y bydd aelod o'u teulu yn mynd yn sâl.

Dywedodd 56% eu bod yn poeni effaith cau ysgolion a'r diffyg cysylltiad gyda ffrindiau a theulu ar iechyd meddwl eu plant.

Mae'r canfyddiadau'n cael eu cyhoeddi i gyd-fynd â lansiad apêl yr elusen i godi arian ar gyfer helpu lliniaru effaith y pandemig ar rai o'r plant a'r teuluoedd mwyaf bregus.

'Cwestiynau'r plant yn pentyrru'

"Mae bywyd normal ymhell o fod yn normal i blant o bob oed ar hyn o bryd," meddai Eurgain Haf o Achub y Plant Cymru, sy'n fam i ddau blentyn, saith a phedair oed.

"Ac wrth i ni fel teulu baratoi ar gyfer ein trydedd wythnos o ymbellhau yn gymdeithasol, mae'r cwestiynau yn dechrau pentyrru.

"Pa liw yw'r firws? Wyt ti a dad yn mynd i fod yn sâl? Pryd allwn ni weld ein ffrindiau a Nain a Taid nesa'? Pryd fydd yr ysgol yn ail-ddechrau?

"A chithau yn cael eich rhwygo rhwng faint i ddweud a faint i ddal yn ôl, yn dibynnu ar eu dirnadaeth o bethau."

Ffynhonnell y llun, Eurgain Haf

Disgrifiad o'r llun, Cerdd plant Eurgain Haf yn edrych ymlaen at bethau i'r teulu wneud ar ddiwedd argyfwng Covid-19

"Fel rhieni rydym yn gwneud ein gorau i gynnig cysur a thawelwch meddwl iddyn nhw," meddai.

Mae hynny'n cynnwys "ceisio monitro beth maen nhw yn ei weld ar y cyfryngau, edrych allan am arwyddion o unrhyw ofid neu newid mewn ymddygiad a cheisio cadw at ryw fath o routine".

Ffynhonnell y llun, Eurgain Haf

Disgrifiad o'r llun, Mae plant wedi bod yn dilyn esiampl eu cyfoedion yn Yr Eidal gan greu ac arddangos lluniau o enfys i godi'r galon

Mae Achub y Plant hefyd wedi cyhoeddi cyfres o gynlluniau ar draws y DU i gefnogi'r plant sydd fwyaf mewn angen.

Bydd teuluoedd bregus yn cael rhoddion a thalebau bwyd i'w cynnal yn ystod cyfnod heriol, a "hanfodion i'r cartref fel byrddau a gwelyau i helpu'r plant barhau i allu dysgu a ffynnu".

Bydd grantiau argyfwng yn helpu sicrhau adnoddau dysgu ar gyfer y blynyddoedd cynnar, ac mae tudalen yn awgrymu syniadau o bethau creadigol i blant eu gwneud.

Mae Y Den hefyd yn cynnwys syniadau i liniaru pryderon plant, ffyrdd creadigol "i gadw'r corff yn ystwyth ac iach, a chyfle i rannu straeon positif ac o hapusrwydd gyda phlant ar draws y byd".

Ffynhonnell y llun, Achub y Plant

Disgrifiad o'r llun, Sicrhau "na fydd mwy o blant yn syrthio o dan y llinell dlodi" yw nod cynlluniau'r elusen, medd Deb Barry

Yn ôl Deb Barry, Uwch Ymgynghorydd Dyngarol gydag Achub y Plant, roedd 200,000 o blant eisoes yn byw mewn tlodi yng Nghymru cyn y pandemig.

"Allwn ni ddim caniatáu i'r ffigwr yma godi," meddai, gan alw am gyfraniadau i'r apêl argyfwng trwy "haelioni y cyhoedd yng Nghymru".

"Drwy gydol y cyfnod heriol hwn i deuluoedd, rydym yma i gynnig cefnogaeth drwy ganolbwyntio ar gadw plant yn ddiogel ac yn iach a gwneud yn siŵr eu bod yn gallu parhau i ddysgu, doed a ddêl.

"Gyda'n gilydd gallwn helpu teuluoedd drwy hyn."

Prif ganfyddiadau'r arolwg

O blith y rhieni, mae:

  • 48% o'r atebwyr yn nodi mai'r prif bryder yw sicrhau fod digon o fwyd;
  • 44% yn poeni ynghylch helpu eu plant gyda'u gwaith ysgol;
  • 19% yn pendroni sut i egluro'r sefyllfa a thrafod coronafeirws gyda'u plentyn;
  • 38% yn pryderu am arian a 20% ag ansicrwydd ynghylch eu swyddi;
  • 17% wedi gorfod lleihau eu horiau gwaith i ofalu am eu plant;
  • 12% wedi gorfod cymryd amser o'r gwaith yn ddi-dâl i ofalu am eu plant;
  • 25% yn gorfod gweithio o'r cartref;
  • 10% wedi gorfod gadael eu swyddi yn gyfan gwbl.

O blith yr atebwyr rhwng chwech ac 18 oed, mae:

  • 58% yn poeni y gall aelod o'u teulu fynd yn sâl;
  • 25% yn poeni y byddai na fydd digon o fwyd ganddyn nhw;
  • 85% yn ddigalon na fyddan nhw'n cael gweld eu ffrindiau a'u perthnasau yn y dyfodol agos;
  • 20% yn poeni ynghylch cadw i fyny gyda gwaith ysgol, a'r un ganran yn bryderus am y dyfodol gyda'r ysgolion ar gau am gyfnod amhenodol.