Coronafeirws: 'Pandemig o drais yn y cartref yn debygol'

Disgrifiad o'r llun, Fe gafodd Rachel Williams ei saethu gan ei chyn-bartner mewn siop trin gwallt

Bydd argyfwng coronafeirws yn arwain at "bandemig o drais yn y cartref", yn ôl ymgyrchwyr.

Bydd y rhai sydd eisoes mewn sefyllfa fregus yn gorfod treulio eu holl amser gyda'r person sy'n eu cam-drin wrth iddyn nhw aros gartref er mwyn dilyn y rheolau caeth sydd mewn lle i geisio rheoli ymlediad Covid-19.

Mae hyn yn debygol o achosi cynnydd mewn trais yn y cartref, yn ôl arbenigwyr a phobl sydd wedi dioddef o drais.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn barod i helpu.

'Anoddach na'r arfer'

Yn ôl yr ymgyrchydd Rachel Williams, gafodd ei saethu gan ei phartner Darren tra roedd hi'n gweithio mewn siop trin gwallt, fe fydd dioddefwyr yn teimlo eu bod wedi eu hynysu.

Fel arfer mae'r dioddefwyr a'r rhai sy'n eu cam-drin yn treulio rhan o'r dydd i ffwrdd o'i gilydd, meddai, boed hynny'n gymdeithasol neu drwy fynd i'r gwaith.

Ond ni fydd yn bosib cael saib na siarad gyda rhywun arall o dan y trefniadau newydd.

Ychwanegodd sylfaenydd Stand Up To Domestic Abuse: "Maen nhw'n mynd i fod gyda'i gilydd 24/7 heb unrhyw le i droi. Fydd hyn hyd yn oed yn anoddach na'r arfer."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod tua 1.6 miliwn o fenywod a 786,000 o ddynion yn dioddef o drais yn y cartref yng Nghymru a Lloegr mewn blwyddyn

Yn ôl Nazir Afzal, ymgynghorydd ar drais yn y cartref i Lywodraeth Cymru, mae gwledydd eraill sydd eisoes wedi cyflwyno cyfyngiadau tebyg wedi gweld cynnydd mewn trais yn y cartref ac mae disgwyl patrwm tebyg ym Mhrydain.

"Mae cynnydd o 20% mewn trais yn y cartref wedi bod yng Ngogledd Iwerddon, 32% ym Mharis, 40% yn Ne Cymru Newydd - ac maen nhw'n gynnydd sylweddol a does dim dwywaith bydd cynnydd tebyg yng Nghymru," meddai.

"Does yna ddim data swyddogol eto, ond mae'n gweithwyr gofal yn sôn yn barod eu bod wedi gweld cynnydd."

Fe wnaeth tua 1.6 miliwn o fenywod a 786,000 o ddynion ddioddef trais yn y cartref yng Nghymru a Lloegr rhwng Mawrth 2018 a 2019.

'Angen mwy o lety'

Dywedodd arbenigwyr bod ofnau am iechyd ac incwm yn gallu gwaethygu gor-bryder a chynyddu'r risg o drais.

Dywedodd Ms Williams, sy'n byw yn Sir Fynwy: "Mae'n rhaid i'r awdurdodau tai agor tai gwag er mwyn rhoi llety i'r merched a phlant ac mae'n rhaid gwneud yr un fath gyda gwestai a llefydd gwely a brecwast, ac archebu llefydd fel ein bod ni'n barod i roi llety i'r aelodau mwyaf bregus mewn cymdeithas."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod eu llinell gymorth Byw Heb Ofn ar agor drwy'r dydd, bob dydd, ac y dylai unrhyw un sydd mewn perygl dybryd ffonio 999.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda'r prif wasanaethau ac elusennau trais yn y cartref i wneud yn siŵr bod cymorth ar gael i bobl sydd o dan fygythiad, pobl sydd wedi goroesi trais yn y cartef a'u teuluoedd," meddai llefarydd.

Cadw golwg

Mae nifer o gymunedau wedi bod yn nôl neges a phresgripsiwn i bobl hŷn a phobl fregus yn ystod y cyfyngiadau diweddar - ac mae Ms Williams eisiau i gymunedau gadw golwg am unrhyw un allai fod yn dioddef o drais yn y cartref.

"Os ydych chi'n meddwl bod ffrind neu gymydog yn dioddef o drais, mae'n bosib eu bod angen help," meddai.

"Os ydych chi'n siopa iddyn nhw ac maen nhw'n hynan ynysu, ac os ydych chi'n amau eu bod yn cael eu cam-drin, rhowch nodyn iddyn nhw yn dawel bach, os yn ddiogel i wneud hynny.

"Mae'n rhaid bod yn wyliadwrus am bobl sy'n dioddef o drais yn y cartref mwy na'r arfer ar hyn o bryd."