Â鶹ԼÅÄ

Coronafeirws: Cymru 'methu cynyddu' nifer y profion

  • Cyhoeddwyd
Sampl coronafeirwsFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer yr achosion positif o coronafeirws yng Nghymru wedi croesi'r trothwy o 1,000

Mae cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a chwmni profi a fyddai wedi caniatáu cynnal 5,000 o brofion Covid-19 yn ychwanegol bob dydd wedi methu, yn ôl sawl ffynhonnell sydd wedi siarad gyda Â鶹ԼÅÄ Cymru.

Y gallu profi cyfredol yng Nghymru yw 800 o brofion dyddiol.

Yr wythnos diwethaf dywedodd y Gweinidog Iechyd y byddai'r ffigwr hwnnw'n codi i 6,000 yr wythnos nesaf a 9,000 erbyn diwedd mis Ebrill.

Ond prynhawn ddydd Sadwrn, dywedodd Vaughan Gething ei bod hi'n "siomedig bod cwmni a oedd wedi llofnodi cytundeb i ddarparu'r profion yn methu a chyflawni eu haddewid".

Er hynny, mae Mr Gething hefyd wedi cyhoeddi y bydd prawf gwaed newydd yn cael ei gyflwyno cyn bo hir fydd yn gallu dangos os ydy unigolyn wedi dal y feirws yn ddiweddar ac wedi datblygu imiwnedd iddo.

Y gred ydy bod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru'r gallu i gynnal dros 800 o brofion y dydd ar hyn o bryd.

Roedd disgwyl i'r nifer yna gynyddu i 6,000 erbyn 1 Ebrill, ac y byddai 2,000 prawf arall y dydd ar gael o 7 Ebrill ymlaen.

Erbyn diwedd mis Ebrill, roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn anelu at allu i gynnal hyd at 9,000 o brofion y dydd yng Nghymru.

Ond mae'r newyddion bod y cytundeb profi wedi cwympo yn creu cryn amheuaeth am hynny.

Yn fuan wedi iddi ddod i'r amlwg na fyddai'r cytundeb profi yn parhau, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fanylion y prawf gwaed newydd.

Fe gadarnhaodd y llywodraeth y byddai 1,100 prawf gwaed y dydd ar gael o 1 Ebrill, ac erbyn canol mis Ebrill y byddai'r nifer yna'n cynyddu i hyd at 5,000 prawf y dydd.

Ac fe fyddai 4,000 prawf arall ar gael yng Nghymru drwy bartneriaeth gyda gwledydd eraill Prydain, Thermo Fisher Scientific, Amazon, Boots, Royal Mail a Randox - cyhoeddiad a gafodd ei wneud gan Lywodraeth Cymru ddydd Sadwrn.

Angen 'Cynllun B'

Wrth ymateb i fethiant y cytundeb, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Angela Burns: "Rwy'n bryderus iawn am y datblygiad hwn."

"Mae'n hanfodol ein bod ni'n gallu profi ein staff rheng flaen.

"Bydd gofal cymdeithasol, fferyllwyr, meddygon teulu, yr holl bobl hyn yn dod i gysylltiad â phobl sydd â Covid-19.

"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r holl allu sydd ganddyn nhw i sicrhau bod mwy o ddeunyddiau profi gyda ni nag sydd gennym ni ar hyn o bryd."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Technegwyr labordy Canolfan Arbenigol Firoleg yn cynnal prawf coronafeirws yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Roedd y llywodraeth yn amlwg yn hyderus yn y cynlluniau oedd ganddi wythnos yn ôl ac mae rhywbeth wedi mynd o'i le.

"Os yw Cynllun A yn methu, mae angen Cynllun B arnoch chi ac maen nhw ei angen yn gyflym.

"A'r rheswm bod angen Cynllun B brys arnom i gynyddu profion yw bod angen i ni ddilyn lledaeniad y firws ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn gallu profi nifer fawr o weithwyr allweddol yn y sectorau iechyd a gofal ac eraill sydd ar hyn o bryd yn eistedd gartref yn hunan-ynysu, sydd eisiau mynd yn ôl i'r rheng flaen."

Ddydd Gwener dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 5,000 o brofion wedi'u cynnal hyd yma yng Nghymru.

"Rydyn ni ymhell y tu ôl lle dywedwyd wrthym ni y byddem ni o ran profi. Ymhell, bell y tu ôl," meddai Mr ap Iorwerth.

"Rwy'n pryderu'n fawr i hynny."

Mewn datganiad dydd Sadwrn dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething: "Mae'n siomedig iawn nad yw cwmni yr oedd gennym ni gytundeb ysgrifenedig ag ef i ddarparu profion yn gallu anrhydeddu'r cytundeb hwnnw."

"Ond mae'r cynllun hwn yn galluogi i ni barhau i gynyddu ein gallu i brofi mewn ysbytai ac yn y gymuned, gan ddefnyddio cytundeb pedair gwlad.

"Mae hyn, ynghyd â chyflwyno'r prawf gwrthgorffynnau, yn golygu y bydd gennym ni well dealltwriaeth o lawer o'r feirws yng Nghymru."