Her coronafeirws yn anodd i ddioddefwyr llifogydd

Disgrifiad o'r llun, Roedd meithrinfa Lauren Forward o dan ddŵr wedi Storm Dennis

Mae teuluoedd a busnesau, a ddioddefodd lifogydd diweddar yn sgil Storm Dennis, yn ei chael hi'n anodd delio gyda'r argyfwng ychwanegol sydd wedi dod yn sgil haint coronafeirws.

Fe wnaeth stormydd Ciara, Dennis a Jorge greu difrod gwerth o leiaf £150m ar draws Cymru ym mis Chwefror.

Mae nifer o'r rhai a ddioddefodd wedi'u cyfyngu i aros mewn llety dros dro ac mae eraill yn cysgu ar soffa ffrindiau.

Dywed llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf bod swyddogion yn gwneud eu gorau i geisio delio â'r sefyllfa.

Cafodd dros fil o gartrefi yn y sir lifogydd - yn eu plith meithrinfa sy'n eiddo i Lauren Forward.

Mae Ms Forward, sy'n 26 oed, a'i mam Alison yn cefnogi gweithwyr hanfodol drwy ddarparu gofal plant ar safle dros dro.

Disgrifiad o'r llun, Mae Lauren Forward a'i mam, bellach, yn darparu gofal plant ar safle dros dro i weithwyr allweddol

"Mae'n anhygoel cael sefyllfa fel hyn yn syth wedi'r llifogydd," meddai Lauren.

"Be ry'n ei wneud nawr yw gofalu am blant gweithwyr allweddol - mae rhai o'r rhieni yn nyrsys. Ry'n yn trio helpu pobl wnaeth ein helpu ni yn ystod y llifogydd."

Ond nid dyfodol y feithrinfa yw'r unif beth sy'n ei phoeni.

Fe gafodd ei mab 18 mis ei eni gyda niwmonia. "Does yna ddim ragor o apwyntiadau ysbyty wedi bod ond mae e wastad yng nghefn fy meddwl i," meddai.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn ymweld â Caroline Jones yn Nantgarw

Mae Caroline Jones, 56 oed, yn parhau i fod mewn llety wedi'i rentu yng Nghaerdydd wedi iddi gael llifogydd yn ei chartref yn Nantgarw.

Dywedodd: "Mae'n ddigalon iawn bod mewn tÅ· lle nid oes un teledu - dwi am fod yn fy nghartref fy hun a dwi'n colli fy nghymdogion - roedd y gymuned yn wych.

"Does dim byd yn bwysicach na'r coronafeirws ond ry'n ni wedi colli ein cartrefi ac yn teimlo ein bod wedi mynd yn angof.

"Mae un cymydog wedi bod yn cysgu ar soffa tan nawr."

Ffynhonnell y llun, Vikki Davies

Disgrifiad o'r llun, Vikki gyda'i thad Malcolm wrth fynd i chwilio am feddyginiaeth i'w mam sy'n ddifrifol wael

Mae Vikki Davies, 33 oed, o Pentre yn gofalu am ei rhieni a'i thri o blant.

Mae hefyd yn rhoi cymorth i'w chwaer a gafodd ddŵr yn ei thŷ ac i henoed a ddioddefodd wedi'r stormydd.

"Dyw pethau ddim wedi gwella ers y llifogydd - mae fy rhieni yn hunanynysu ac mae fy chwaer wedi cloi ei hun bant.

"Dwi'n trio gwneud be dwi'n gallu i bawb tra'n gofalu am fy mhlant yr un pryd," meddai.

"Mae'r plant wedi bod yn wych - mae gan ddau anableddau ac yn delio'n dda gyda'r sefyllfa.

"Ond mae'n anodd wedi'r llifogydd. Doedd gan nifer ddim yswiriant a nawr mae nhw'n gorfod delio â coronafeirws."

'Anarferol o heriol'

Dywed Cyngor Rhondda Cynon Taf bod pobl yr ardal "wedi profi wythnosau anarferol o heriol" a'u bod wedi cyflwyno nifer o fesurau ers y llifogydd gan gynnwys pecyn £1.8m i fusnesau a thrigolion, grantiau ychwanegol a phrydau ysgol am ddim i blant ysgol am fis.

"Mae'r cyngor yn parhau i geisio gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu dioddefwyr."

Dywedodd Llywodraeth Cymru, sydd hefyd wedi helpu pobl a ddioddefodd yn sgil y llifogydd, eu bod yn llwyr ymwybodol bod y cyfyngiadau diweddaraf i ddelio â haint coronafeirws yn gallu bod yn anodd i rai.

Ychwanegodd llefarydd mai'r peth gorau fyddai "cysylltu â'r awdurdod lleol er mwyn gweld pa gymorth pellach neu drefniadau amgen fyddai'n gallu cael eu darparu".