Â鶹ԼÅÄ

Syniadau arloesol ym Môn i daclo coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Anna Roberts gyda mwgwd
Disgrifiad o’r llun,

Anna Roberts gydag un o'r mygydau newydd

Mae gwyddonwyr ar Ynys Môn yn helpu datblygu masg newydd arloesol i helpu taclo'r coronafeirws - ynghyd a dyfeisiadau eraill i geisio helpu atal yr haint rhag lledu.

Mae cwmni Virustatic Shield wedi bod yn gweithio ar eu masg ers rhai blynyddoedd ond wedi gorfod cyflymu'r gwaith yn arw yn sgil y pandemig.

Yn ôl y cynllunwyr, mae'r mwgwd yn lladd dros 95% o feirysau - yn cynnwys Covid-19.

'Dan ni eisiau helpu'

"Mae'r masg yma'n wahanol i fasgiau eraill am fod 'na anti viral protein ynddo fo sy'n lladd unrhyw firws sy'n dod i gysylltiad efo'r defnydd," meddai Anna Roberts o'r cwmni.

"Mae o hefyd yn ddefnydd ysgafn iawn, fedrwch chi anadlu drwyddo fo, felly mae'n brafiach i'w wisgo.

"Mae 'na 25,000 ar gael rŵan a 'dan ni'n gobeithio gallu cael rhyw filiwn mewn 'chydig wythnosau.

"'Dan ni'n siarad efo'r llywodraeth yn Llundain a 'dan ni'n mynd i siarad efo Llywodraeth Cymru achos, wrth gwrs, 'dan ni eisiau helpu nhw a helpu'r gwasanaeth iechyd."

Mae'r parc gwyddoniaeth ar Ynys Môn wedi bod yn ceisio helpu gwyddonwyr led led y byd sy'n ceisio atal yr haint rhag lledu.

Mae canolfan M-Sparc ym mhentref Gaerwen, gyda chefnogaeth Prifysgol Bangor, yn gartref i gwmnïau technoleg o bob maint, lliw a llun.

Yn ogystal â'r mygydau, mae'r arbenigwyr wedi dyfeisio drysau sy'n agor heb orfod cyffwrdd yn y ddolen.

Disgrifiad o’r llun,

Mae modd ailgreu dyfais Wyn Griffiths i agor drysau gydag argraffydd 3D

Eto, roedd y dylunydd Wyn Griffiths wedi ymateb yn gyflym i'r sefyllfa sydd ohoni, gyda'i egin syniad wedi troi'n realiti mewn llai na diwrnod.

"O'dd y wraig 'di bod yn yr ysbyty'r wythnos diwetha' a 'di gweld bod 'na broblem gorfod agor y drws ar ôl golchi dwylo, a nes i feddwl be' faswn i'n gallu 'neud i helpu," esboniodd Wyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae modd defnyddio'r ddyfais i agor drysau heb ddefnyddio'ch dwylo

"Felly dwi 'di dylunio'r prototype cynta' - mae o ar gael ar y we rŵan i bobl ei lawrlwytho am ddim.

Mae 'na lot o bobl efo argraffwyr 3D adra erbyn hyn, felly mi fedran nhw gynhyrchu nhw adra a gobeithio dosbarthu nhw i lefydd fel ysbytai.

"Dach chi'n gallu cael gwahanol feintiau i ffitio gwahanol ddrysau, ac ma' rhywun yn rhoi ei fraich yn y bwlch a defnyddio hynny i agor y drws yn lle bod chi'n gorfod cyffwrdd y drws ei hun."

Diddordeb gan y bwrdd iechyd

Yn ôl Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-Sparc, mae'n hanfodol fod y parc gwyddoniaeth yn chwarae eu rhan trwy ddatblygu syniadau newydd, yn enwedig gan fod nifer o gwmnïau ac arbenigeddau gwahanol yn gweithio o fewn yr un sefydliad.

Mae'n gobeithio y bydd yn arwain at fwy o gydweithio ac arloesedd, ac mae'n falch bod Sir Fôn yn gallu cyfrannu at y frwydr yn erbyn coronafeirws.

"Pwy 'sa'n meddwl bod 'na gymuned wledig fel sy' gynnon ni'n fan'ma yn gallu cyfrannu at broblem fyd-eang fel 'dan ni'n ei wynebu ar hyn o bryd?" meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart fod un bwrdd iechyd eisoes wedi dangos diddordeb yn y ddyfais agor drysau

"Mae'n dangos pŵer parc gwyddoniaeth fel hyn am wn i, lle 'da chi'n dod â chwmnïau a phobl sy'n dyfeisio pethau, a phobl sy'n arloesi, at ei gilydd i weithio efo Prifysgol Bangor.

"Mae 'na ddiddordeb yn barod yn be' sy'n digwydd yma.

Mae'r bwrdd iechyd wedi holi am y ddyfais i agor drws sy'n cael ei greu yma - felly mi fydd yn ddifyr gweld os bydd rhai o'r pethau yma'n cyrraedd y farchnad ehangach maes o law.

"Mae'n rhywbeth positif i ni ei gael yng nghanol bob dim sy'n mynd ymlaen am wn i."

Peiriant anadlu

Ymhlith y dyfeisiadau newydd eraill yng Nghymru i geisio taclo'r haint mae dyfais anadlu gafodd ei greu mewn tridiau gan feddyg o Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Cafodd Dr Rhys Thomas ei herio gan arweinydd Plaid Cymru, Adam Price i greu'r peiriant sy'n helpu cleifion i anadlu a glanhau gronynnau mewn ystafell.

Dywedodd Dr Thomas bod un claf yn Llanelli eisoes wedi cael eu trin gyda'r peiriant a'u bod bellach yn "dod at ei hun yn dda".

"Er na fydd yn cymryd lle peiriant anadlu unedau gofal dwys, fydd y rhan fwyaf o gleifion ddim angen gofal dwys os cân nhw eu trin â'r peiriant anadlu hwn yn gyntaf. Bydd hynny yn rhyddhau peiriannau anadlu UGD ar gyfer achosion Covid-19 mwy difrifol ac achosion meddygol cyffredinol eraill," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Thomas ei fod yn "pryderu'n enbyd am y diffyg peiriannau anadlu mewn unedau gofal dwys"