Â鶹ԼÅÄ

Coronafeirws: Apêl uniongyrchol i blant

  • Cyhoeddwyd
Plant yn gwylio teledu
Disgrifiad o’r llun,

Dyma ydy'r diwrnod llawn cyntaf i filoedd o blant ar draws Cymru orfod aros adref o ysgolion a sefydliadau gofal arall

Mae'r Ysgrifennydd Addysg wedi dweud bod yn rhaid i bobl aros y tu fewn a bod y niferoedd a gafodd eu gweld mewn llefydd cyhoeddus dros y penwythnos yn 'bryderus'.

Galwodd Kirsty Williams AC hefyd ar blant Cymru i gadw eu teuluoedd ac eraill yn ddiogel trwy aros y tu fewn.

Dywedodd hefyd bod gan y Prif Weinidog "bob bwriad" i ddefnyddio pwerau i orfodi parciau carafanau i gau.

Yn ôl Ms Williams fe fydd y Llywodraeth yn cymryd pob cam posib i warchod y cyhoedd ac i arafu'r haint.

Mae'r pŵer gyda'r plant

Wrth apelio'n uniongyrchol at blant dywedodd Kirsty Williams: "Rwy'n gwybod mai'r demtasiwn fydd i fynd y tu allan a chymdeithasu a chwarae gyda'ch ffrindiau."

"Mae'n ddrwg iawn gen i ond allwch chi ddim gwneud hynny o dan yr amgylchiadau hyn.

"Fy apêl i bob plentyn ac i bobl ifanc yw 'Cadwch hun yn ddiogel trwy aros gartref, chwarae yn eich gardd a pheidio â chymysgu â'ch ffrindiau ar yr adeg hon'.

"Rwy'n gwybod bod hynny'n anodd ei wneud, ond rydyn ni angen i chi ei wneud i gadw pobl eraill yn eich teulu a'ch cymuned yn dda.

"Mae gennych chi fel plant y pŵer i'n helpu ni i arafu lledaeniad y clefyd hwn," meddai.

"A gallwch chi wneud hynny trwy aros gartref a dod o hyd i wahanol ffyrdd o gyfathrebu â'ch ffrindiau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae meddygon teulu mewn rhannau gwledig yn pryderu am effaith gorboblogi ar wasanaethau iechyd lleol

Dywedodd Ms Williams na allai iechyd pob Cymru fforddio gweld cymaint o bobl yn ymgasglu yn Eryri ac ar Ben y Fan, fel y digwyddodd ar y penwythnos.

"Mae'n rhaid i'r golygfeydd hyn ddod i ben", meddai.

"Rwy'n deall bod yr hyn rydyn ni'n gofyn i bobl yn ddigynsail, ac mae'n mynd yn erbyn pob greddf.

"Ond dyma ein realiti newydd a bydd yn realiti i ni am gryn amser."

Mae gan y prif weinidog "bob bwriad" o ddefnyddio pwerau i orfodi parciau carafanau i gau, yn ôl Ms Williams.

Dywedodd Mark Drakeford ddydd Sul ei fod yn aros am gyngor ynghylch a yw'n gallu gorfodi cau.

Mae perchnogion carafanau ac ail gartrefi wedi cael eu hannog i aros yn eu prif breswylfeydd i gyfyngu ar ledaeniad y coronafirws ac i beidio â rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau gofal iechyd gwledig.

Fore dydd Llun fe ddywedodd Kirsty Williams wrth gynhadledd i'r wasg bod gan y llywodraeth y pŵer i weithredu: "Mae gan y prif weinidog y pwerau hynny."

"Mae yna broses i fynd drwyddi ond mae'r pwerau hynny ar gael.

"Mae yna broses y mae angen ei dilyn, felly nid yw'r llywodraeth yn torri unrhyw un o'r prosesau cyfreithiol hynny a allai fod yn agored i'w herio gan fusnes a oedd yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn annheg.

"Ond mae'r pwerau hynny ar gael ac rwy'n hyderus bod gan y prif weinidog bob bwriad i'w defnyddio."

Dywedodd hefyd ei bod am ddiolch i berchnogion parciau carafanau sydd eisoes wedi cau yn wirfoddol.