鶹Լ

Galw am beidio cymryd 'risgiau diangen' gyda gwaith tŷ

  • Cyhoeddwyd
Gwaith tŷFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder y bydd cynnydd mewn anafiadau wrth i'r cyhoedd dreulio cyfnodau hir yn eu cartrefi

Mae galwadau ar bobl i beidio â chymryd "risgiau diangen" gyda gwaith o amgylch y cartref dros y misoedd nesaf.

Mae meddygon yn bryderus y bydd cynnydd yn nifer yr anafiadau wrth i'r cyhoedd dreulio cyfnodau hir yn eu cartrefi oherwydd argyfwng coronafeirws.

Dywedodd yr ymgynghorydd orthopedig, Awen Iorwerth bod capasiti'r GIG i ymdopi gyda chleifion sydd ag anafiadau yn "llawer llai" na'r arfer.

Yn y cyfamser mae llythyrau wedi cael eu hanfon i ddoctoriaid a nyrsys sydd wedi ymddeol yn gofyn iddyn nhw ddychwelyd i helpu'r gwasanaeth iechyd drwy'r cyfnod yma.

'Byddwch yn ofalus'

Dywedodd Dr Iorwerth bod ysbytai yn gwneud popeth yn eu gallu i gael cleifion eraill o ysbytai, gyda disgwyl i welyau fod yn llawn cleifion Covid-19 am gyfnod.

"Mae pobl sydd â phlaster wedi eu cymryd i ffwrdd fel nad oes rhaid i ni eu cael nhw i mewn ac allan o'r ysbyty," meddai Dr Iorwerth, sy'n gweithio yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Rydyn ni hefyd yn gwneud yn siŵr nad ydyn ni'n cael cleifion bregus yn dod i amgylchedd ble maen nhw mewn perygl o ddal y feirws.

"Ceisio lleihau nifer y bobl sydd angen gofal brys a llawdriniaethau yw'r flaenoriaeth."

Mae ffisiotherapi hefyd yn cael ei leihau am y tro er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo'r feirws, ond bydd llawdriniaethau i drin y rheiny sydd wedi anafu'n ddifrifol yn parhau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Awen Iorwerth fod yr wythnosau nesaf yn mynd i fod yn "gyfnod heriol"

Yn ôl Dr Iorwerth y neges i'r cyhoedd yw cymryd gofal yn sgil coronafeirws.

"Rwy'n siŵr y bydd y niferoedd yn cynyddu, ac mae'n rhaid i ni erfyn ar y cyhoedd i fod yn ofalus," meddai.

"Y temtasiwn dros yr wythnosau nesaf fydd gwneud y pethau o amgylch y tŷ rydych chi wedi osgoi ers amser, fel rhoi silffoedd neu luniau i fyny.

"Peidiwch cymryd risgiau diangen, oherwydd ni fydd gennym y capasiti i'ch trin."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan awen asgwrn 🩺👩🏼‍🔧

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan awen asgwrn 🩺👩🏼‍🔧

Dywedodd Dr Iorwerth ei bod hi a'i chydweithwyr yn bryderus am y dyddiau ac wythnosau nesaf yn sgil y feirws.

"Rydyn ni'n cynllunio cymaint â phosib ond nes i'r don fawr ein cyrraedd ni fyddwn wir yn gwybod sut y byddwn ni'n ymdopi, faint ohonom fydd yn wael a faint fydd yn goroesi," meddai.

"Mae'n mynd i fod yn gyfnod heriol i ni a'n teuluoedd, yn ogystal â'r gymdeithas yn ehangach."