Coronafeirws: Canslo Gŵyl Fwyd Caernarfon 2020

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Maes Caernarfon dan ei sang

Mae trefnwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon wedi cyhoeddi fod y digwyddiad eleni wedi'i ganslo yn sgil pryderon am coronafeirws.

Mae'r digwyddiad wedi tyfu i fod yn un o'r gwyliau bwyd mwyaf poblogaidd yn y gogledd-orllewin yn y blynyddoedd diwethaf.

Roedd yr ŵyl eleni i fod i gael ei chynnal ar 9 Mai.

Mewn datganiad, dywedodd y trefnwyr: "Yn sgil sefyllfa bresennol gyda'r feirws Covid-19, ac er mwyn atal ymlediad, mae Gŵyl Fwyd Caernarfon wedi penderfynu peidio a chynnal gŵyl 2020.

"Mae hyn yn sicr yn siom i ni fel trefnwyr, ac yn siŵr o fod felly hefyd i'r stondinwyr, perfformwyr a'r miloedd sydd yn mynychu yn flynyddol.

"Ond ein blaenoriaeth ni yw iechyd a lles y cyhoedd, felly mae'n angenrheidiol i ni ddilyn canllawiau'r Llywodraeth i geisio atal lledaenu'r feirws.

"Rydym mor ddiolchgar am bob cefnogaeth yr ydym wedi ei gael i'r ŵyl. Heb y gefnogaeth honno, byddai yn amhosibl cynnig gŵyl rhad ac am ddim, sy'n cynnwys dros 120 o stondinau, cerddoriaeth fyw a gweithdai.

"Rydym wedi cynnal amryw o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn i godi arian er mwyn gallu cynnal yr ŵyl a bydd yr arian hwnnw nawr yn cael ei gadw er mwyn gallu cynnig gŵyl werth chweil yn 2021.

"Rydym yn cydymdeimlo yn fawr efo'r artistiaid a'r busnesau hynny sydd am ddioddef colledion ariannol dros y cyfnod nesaf, a byddwn ni fel criw gwirfoddol yn siŵr o fod allan yn y gymuned yn cynnig cymorth ble bo angen.

"Edrychwch ar ôl eich hunain a'ch gilydd."