Bwriad i wahardd plastig untro yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, Reuters

  • Awdur, Steffan Messenger
  • Swydd, Gohebydd Amgylchedd Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae cynlluniau i wahardd ystod eang o gynnyrch plastig sydd ond yn cael eu defnyddio unwaith wedi'u cadarnhau gan Lywodraeth Cymru.

Daw hyn cyn lansio ymgynghoriad ynglŷn â sut bydd y mesurau'n cael eu gweithredu'n ymarferol.

Mae gwellt, gwlân clustiau a ffyn balwnau plastig ymysg yr eitemau sy'n cael eu targedu.

Croesawu'r cyhoeddiad mae elusennau amgylcheddol, ond mae rhai'n dadlau bod angen gwneud mwy i daclo llygredd môr.

Yr hyn mae'r llywodraeth yn ei feddwl drwy 'wahardd' eitemau untro yw, i bob pwrpas, atal pobl rhag eu gwerthu neu'u cyflenwi yng Nghymru.

Mae disgwyl i waharddiad ar wellt, troellwyr a gwlân clustiau ddod i rym yn Lloegr fis nesaf.

Ond byddai'r mesurau Cymreig yn mynd ymhellach, gan ganolbwyntio ar restr hirach o blastigion sydd wedi'u gwahardd hefyd gan yr Undeb Ewropeaidd dan gyfarwyddyd newydd.

Mae'r Alban eisoes wedi gwahardd gwlân clustiau, ac yn bwriadu cyflwyno deddf fydd yn cyfateb â chyfarwyddyd yr UE hefyd.

Be fydd yn cael ei wahardd yng Nghymru?

Y bwriad yw cael gwared ar wellt, troellwyr, gwlân clustiau, ffyn balwn, platiau, cyllyll a ffyrc plastig.

Bydd gwaharddiad hefyd ar gynhwyswyr bwyd a diod sydd wedi'u gwneud o bolystyren wedi'i ehangu a chynnyrch sydd wedi'u gwneud o blastig oxo-bioddiraddiadwy megis rhai mathau o fagiau siopa.

Bydd angen pasio deddfwriaeth yn gyntaf, gyda'r mesurau i ddod i rym ar ddechrau 2021.

Ffynhonnell y llun, Labour Party

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Hannah Blythyn AC y bydd y llywodraeth yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus

Beth os ydw i'n dibynnu ar rai o'r eitemau yma?

Mae'r gweinidog a chyfrifoldeb am ailgylchu, Hannah Blythyn wedi dweud y bydd y llywodraeth yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus "i ddeall effaith y cynnig hwn, yn enwedig ar unrhyw ddinasyddion y mae'n bosibl eu bod yn dibynnu ar rai o'r eitemau rydyn ni wedi eu cynnwys, i wneud yn siŵr ein bod yn cael hyn yn iawn."

Mae grwpiau anabledd ac ymgyrchwyr megis y cyn athletwraig Paralympaidd o Gymru y Farwnes Tanni Grey-Thompson wedi rhybuddio y byddai gwahardd gwellt plastig yn achosi problemau dybryd i bobl sy'n dibynnu arnyn nhw i yfed heb gymorth.

Dan gynlluniau Llywodraeth y DU yn Lloegr fe fyddai modd i bobl ofyn am wellt plastig mewn bariau a bwytai.

A byddai labordai meddygol a gwyddonol yn dal i allu prynu gwlân clustiau plastig ar gyfer gwaith ymchwil a fforensig.

Pwysleisiodd Llywodraeth Cymru nad oedd unrhyw benderfyniad pendant wedi'i wneud eto ynglŷn â sut bydd y gwaharddiadau'n gweithio yn ymarferol, a byddai hyn yn destun i'r ymgynghoriad.

Pam fod hyn yn digwydd?

Dywedodd Ms Blythyn bod y "plastig untro yr ydym am eu gwahardd yn anodd eu hailgylchu ac maent i'w cael yn aml ar draethau a moroedd o amgylch ein harfordiroedd, gan ddifetha ein gwlad a niweidio ein hamgylchedd naturiol a morol".

"Mae'n hollbwysig nad ydym yn taflu ein dyfodol i ffwrdd - a dyma pam rydyn ni'n credu y bydd y gweithredu uniongyrchol hwn yn cael effaith sylweddol ar newid ymddygiad pobl a gwneud iddyn nhw ystyried eu gwastraff pan maen nhw'n teithio o gwmpas," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Pa ymateb sydd wedi bod?

Dywedodd Jemma Bere, rheolwr polisi ac ymchwil Cadwch Gymru'n Daclus bod yr elusen "wir yn cefnogi'r mesurau".

Roedd hi'n rhagweld na fyddai'r effaith ar fusnesau na dewis defnyddwyr yn sylweddol gan fod "cymaint o gynnyrch amgen ar gael - yn y bôn mae hyn yn anfon neges i'r cyhoedd yn eu hannog nhw i ymchwilio beth yw'r opsiynau eraill i eitemau untro."

Er hynny fe bwysleisiodd na fyddai gwahardd eitemau yn ddigon i daclo sbwriel a llygredd, pwynt a godwyd hefyd gan Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru.

Meddai Ms Elgar ddylai hyn ond fod yn "gam cyntaf". "Mae eisiau ni symud yn gyflym i fod yn genedl ddiwastraff - da ni'n galw ar i hynny ddigwydd erbyn 2030."

"Gobeithio y gwnân nhw hefyd fwrw mlaen ar gynlluniau maen nhw'n ymgynghori arno ar hyn o bryd - pethau fel cyflwyno tâl ar gwpanau coffi."