Chwe Gwlad: Gohirio gêm Cymru a'r Alban achos coronafeirws

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Roedd capten Cymru, Alun Wyn Jones i fod i ennill cap rhif 148 yn erbyn yr Alban

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau fod y gêm Chwe Gwlad rhwng Cymru a'r Alban wedi'i gohirio yn sgil pryderon am coronafeirws.

Fe ddaeth datganiad gan yr undeb toc wedi 14:00 ddydd Gwener - bron 24 awr union cyn y gic gyntaf yn Stadiwm Principality, Caerdydd.

Roedd y gemau eraill yn y Chwe Gwlad y penwythnos hwn eisoes wedi'u gohirio yn sgil coronafeirws.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Gwener fod 13 achos newydd o coronafeirws wedi'u cadarnhau - gyda'r cyfanswm yma bellach yn 38.

Bydd Prif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon yn rhoi gwaharddiad ar ddigwyddiadau torfol yn Yr Alban gyda 500 o bobl neu fwy o ddechrau wythnos nesaf.

'Gohirio oedd yr unig opsiwn'

Dywedodd llefarydd ar ran yr undeb: "Mae URC wedi cynnal deialog agored gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys y Chwe Gwlad, ac wedi parhau i geisio cyngor a chyfarwyddyd ar y mater hwn, sy'n datblygu'n gyflym.

"Er bod cyngor meddygol yn parhau i fod yn gyson, rydym wedi penderfynu ei bod er budd cefnogwyr, chwaraewyr a staff yn unol â mesurau diweddar a gymerwyd ledled y DU a diwydiannau chwaraeon byd-eang."

Ychwanegodd bod yr undeb wedi gwneud "pob ymdrech i lwyfannu'r gêm hon" ac y byddan nhw'n "gwneud cyhoeddiadau pellach mewn perthynas ag aildrefnu'r gêm yn y dyddiau nesaf".

"O ystyried natur hylifol a digynsail y mater hwn, gohirio oedd yr unig opsiwn ymarferol," meddai.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Dydy Llywodraeth y DU ddim wedi gwahardd cynnal digwyddiadau mawr eto, ond maen nhw'n cynghori unrhyw un sy'n dangos symptomau peswch neu dymheredd uchel i hunan ynysu am wythnos.

Mae nifer o ddigwyddiadau chwaraeon, gan gynnwys cystadleuaeth y Pro14 a gemau pêl-droed Cymru eisoes wedi'u gohirio oherwydd Covid-19.

Mewn cynhadledd i'r wasg dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething ei fod yn rhoi ystyriaeth lawn i'r syniad o roi diwedd ar gyfarfodydd torfol mawr am y tro, ond ei fod yn gefnogol o'r camau y mae llywodraeth y DU yn eu cymryd i arafu ymweliad coronafeirws.