Â鶹ԼÅÄ

S4C yn croesawu newidiadau trefniant TAW gwerth £15m

  • Cyhoeddwyd
S4C

Mae S4C wedi croesawu cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU y bydd y sianel yn derbyn ad-daliad treth ar werth (TAW) gwerth £15m pob blwyddyn o'r flwyddyn nesaf.

Yn ymarferol dydy'r trefniant ddim yn golygu cynnydd neu gostyngiad yng ngyllid S4C, ond mae'n golygu eu bod nhw yn ôl ar yr un trefniant â darlledwyr eraill fel y Â鶹ԼÅÄ ac ITN.

Dywedodd y llywodraeth y bydd y Canghellor yn cyhoeddi yn y gyllideb ddydd Mercher y bydd S4C yn cael ad-daliad TAW am ei chostau o Ebrill 2021.

Petai'r sianel wedi gorfod talu'r bil TAW eu hunainn dywedodd S4C y byddai hynny wedi golygu "toriad o 20% yn y cyllid sydd ar gael" iddyn nhw.

Cafodd statws treth S4C ei newid yn 2019, gan olygu eu bod nhw bellach yn gorfod talu TAW ar gostau.

Ar y pryd fe wnaeth Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU gytuno i dalu'r bil hyd nes y bydd y rheolau'n cael eu newid.

Yn ôl Llywodraeth y DU mae'r mesur yn "cyflawni addewid yn y maniffesto i roi cefnogaeth bellach i'r darlledwr".

Dywedodd y Canghellor, Rishi Sunak: "Mae S4C wedi dod yn rhan annatod o wead diwylliant Cymru ac rydyn ni'n benderfynol o gefnogi'r sianel er mwyn iddi allu parhau i ddarlledu amrywiaeth o raglenni i gannoedd o filoedd o siaradwyr Cymraeg sy'n gwylio bob wythnos."

'Sicrhau ei ddyfodol'

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart: "Byddai'r cyhoeddiad hwn yn galluogi S4C i barhau â'i chenhadaeth i gyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl ar draws ystod o lwyfannau cyfoes.

"Gydag S4C yn brif gomisiynydd rhaglenni a chynnwys Cymraeg, mae hyn yn argoeli i fod yn hwb mawr i'r sector ac yn helpu i sicrhau ei ddyfodol."

Dywedodd llefarydd ar ran S4C fod y sianel yn "croesawu'r datblygiad hwn".

"Mae'r datblygiad yma yn osgoi toriad o 20% yn y cyllid sydd ar gael i S4C," meddai.

"Rydym yn ddiolchgar i'r holl aelodau seneddol, swyddogion a gweinidogion y DCMS a Swyddfa Cymru sydd wedi dadlau'n hachos gyda'r Trysorlys."