Â鶹ԼÅÄ

11 o gyfrolau ffuglen Cymraeg 'y dylai pawb eu darllen'

  • Cyhoeddwyd
Catrin Beard a llyfrau

Ar Ddiwrnod y Llyfr 2020, mae Cymru Fyw wedi holi'r adolygydd llyfrau a darlledwr Catrin Beard am ei dewis o'r llyfrau ffuglen Cymraeg y dylai pawb eu darllen (o'r clasuron cyfoes sydd wedi eu cyhoeddi yn yr 20 mlynedd ddiwethaf).

Dyma ei rhestr:

Does dim amheuaeth fod ffuglen Gymraeg wedi datblygu'n rhyfeddol dros y blynyddoedd diweddar.

Nid tasg hawdd yw dewis deg cyfrol i'w hargymell, yn wir mae'n amhosib, felly dyma 11 ... a hyd yn oed wedyn, mae 'na o leiaf 11 arall yn brathu eu sodlau, ac yn llawn haeddu eu lle ar y rhestr, sy'n cynnig amrywiaeth o ran arddull, pynciau a naws.

Mwynhewch y darllen!

Awst yn Anogia: Gareth F Williams

Hanes pentref Anogia ar ynys Creta yn yr Ail Ryfel Byd. Ceir disgrifiadau o erchylltra'r rhyfel a dioddefaint y bobl, ond nofel â chalon sy'n adrodd hanes pwysig y dylem ei gofio.

Babel: Ifan Morgan Jones

Cyflwyniad Cymru i'r genre Agerstalwm (steampunk) yn dilyn Sara sy'n dianc rhag ei thad treisgar i geisio gyrfa newyddiadurol. Golwg ar Gymru heddiw drwy sbectol led-ffantasïol o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa

Ebargofiant: Jerry Hunter

Nofel heriol, wedi'i hysgrifennu mewn iaith ac orgraff a grëwyd gan Ed, sy'n byw mewn byd digon llwm ar ôl chwalfa ecolegol. Gwelwn wareiddiad yn aileni a phenderfyniad i greu prydferthwch mewn byd di-liw a diflas.

Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau: Llwyd Owen

Nofel wahanol i ddim a ddaeth o'i blaen yn Gymraeg, yn trafod ochr annymunol y bywyd Cymraeg - trais, dial, cyffuriau, rhagrith.

Gwirionedd: Elinor Wyn Reynolds

Cofnod cofiadwy ac ysgytwol o'r broses alaru a cholli rhiant. Cyfrol deimladwy sy'n llawn afiaith, gyda hiwmor yn llinyn arian drwy'r tristwch. Byddwch yn eich dagrau - yn crio ac yn chwerthin.

Lladd Duw: Dewi Prysor

Stori am wrthdaro rhwng dau fyd - isfyd troseddol Llundain a chefn gwlad gogledd Cymru. Cyffro, cymeriadau brith a digwyddiadau yn amrywio o'r doniol i'r creulon i'r bizarre, ond dogn o athroniaeth a meddwl hefyd - y cyfan ar ddau gan milltir yr awr.

Llyfr Glas Nebo: Manon Steffan Ros

Nofel ddystopaidd, ond sy'n ddarlun tyner o ddatblygiad perthynas mam a mab. Mae'n codi cwestiynau am flaenoriaethau ein hoes a'n ffordd o fyw nad oes iddynt atebion hawdd o fath yn y byd.

Martha, Jac a Sianco: Caryl Lewis

Darlun o fywyd anodd dau frawd a chwaer sy'n rhygnu byw ar fferm deuluol yng Ngheredigion. Portread gonest a byw o gymeriadau credadwy a defnydd cain o dafodiaith a hiwmor cefn gwlad.

O! Tyn y Gorchudd: Angharad Price

Hanes teulu Tynybraich, Sir Feirionnydd drwy lygad Rebecca Jones. Cyfrol sydd ar y ffin rhwng ffaith a ffuglen, sy'n disgrifio ffordd o fyw a newid yn y teulu a'r genedl dros gyfnod.

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa

Petrograd: William Owen Roberts

Darlun o gymdeithas ar chwâl; hanes teulu cefnog o ddinas Petrograd, a'u hynt yn sgil y chwyldro yn Rwsia ddechrau'r ugeinfed ganrif. Cynfas eang a phrofiad tebyg i ddarllen Tolstoy.

Ynys Fadog: Jerry Hunter

Y nofel hiraf erioed yn Gymraeg: epig deuluol a chymunedol yn adrodd hanes cymuned Gymraeg ei hiaith yn Ohio dros ganrif, o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg i'r ugeinfed ganrif.

Mae rhai ohonoch wedi bod mewn cysylltiad i gynnig eich awgrymiadau chi ar gyfer y rhestr:

Sgythia: Gwynn ap Gwilym - "Cyfrol arbennig iawn", Eirlys Davies

I Botany Bay: Bethan Gwanas - Manon Owen

Llyfrau Mihangel Morgan - "Yn 1999 y cyhoeddwyd Dan Gadarn Goncrit felly byddai'n werth enwebu unrhyw un arall o lyfrau Mihangel Morgan a gyhoeddwyd ers 2000, e.e. Cestyll yn y Cymylau, Kate Roberts a'r Ystlum... awdur gwaith gwreiddiol, dychanol, doniol a difrifol.", Catrin Mathias

Anfonwch e-bost at cymrufyw@bbc.co.uk gyda'ch cynigion chi.

Hefyd o ddiddordeb: