Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gruffydd Wyn yn ennill Cân i Gymru 2020
Gruffydd Wyn ddaeth i'r brif yng nghystadleuaeth Cân I Gymru 2020 yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth nos Sadwrn.
Penderfynodd gwylwyr mai'r gân Cyn I'r Llenni Gau oedd yn haeddu'r wobr gyntaf o £5,000 a'r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd yn Iwerddon fis nesaf.
Dywedodd y canwr o Amlwch, a ddaeth i amlygrwydd ar ôl cyrraedd rowndiau olaf y gyfres deledu Britain's Got Talent: "Roedd y gân yma i fy Nain a fu farw'n ddiweddar, a dwi wedi gweld bywyd yn anodd iawn ers ei cholli.
"Dwi'n gobeithio y bydda'i hi yn browd iawn ohona' i heno."
Y gân Pan Fyddai'n Wythdeg Oed ddaeth yn ail yn y bleidlais gyhoeddus, gan sicrhau gwobr o £2,000 i'r cyfansoddwyr, Rhydian Meilir a Jacob Elwy.
Cafodd Alistair James £1,000 am ddod yn drydydd gyda Morfa Madryn.
Roedd yna bum cân arall yn y rownd derfynol:
- Arianrhod gan Beth Celyn;
- Adref yn ôl gan Tesni Jones, Sara Williams a Roo Walker;
- Dawnsio'n Rhydd gan Ben Hamer a Rhianna Loren;
- Y Tir a'r Môr gan Rhydian Meilir;
- ac Anochel gan Aled Mills.
Cafodd caneuon y rownd derfynol eu dewis gan banel o feirniaid - Bryn Fôn, Georgia Ruth, Ani Glass ac Owain Gruffudd Roberts.
Mae'r Å´yl Ban-Geltaidd yn cael ei chynnal yn Carlow eleni rhwng 14 a 19 Ebrill.