Ffrae iaith am ysgol Gymraeg newydd yn Sir Benfro

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Benfro

Disgrifiad o'r llun, Y cynghorydd Paul Rapi gododd y sylwadau yn y siambr ddydd Iau
  • Awdur, Aled Scourfield
  • Swydd, Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae cynghorydd sir wedi galw am ymchwiliad i sylwadau dadleuol gan athro yn ystod ymgynghoriad ar ddatblygu addysg Gymraeg yn ardal Penfro.

Mae'r sylw dienw, gafodd ei gynnwys mewn , yn ymosod ar gynlluniau i agor ysgol gynradd Gymraeg newydd yn yr ardal.

Cafodd cynlluniau ar gyfer ysgol Gymraeg newydd ym Mhenfro sêl bendith cynghorwyr sir brynhawn ddydd Iau ar ôl trafodaeth danllyd.

Mae'r sylw yn dweud bod rhieni yn ardal Dinbych-y-pysgod yn dewis addysg Gymraeg er mwyn "osgoi Ysgol Greenhill" ac fe gymharwyd y sefyllfa i "apartheid addysgol".

'Deinosoriaid'

Cafodd y sylwadau eu disgrifio fel rhai "amhroffesiynol ac anaddas" gan y Cynghorydd Paul Rapi, ac fe ddywedodd bod y gymhariaeth i apartheid yn "sarhaus ac yn anghywir".

Galwodd Mr Rapi ar y Cyfarwyddwr Addysg Dros Dro, Steven Richards-Downes, i gymryd y "camau priodol".

Cefnogwyd ei sylwadau gan y cynghorydd Mike Williams o Ddinbych-y-pysgod, wnaeth ddweud bod y sylwadau gan "unigolyn ym myd addysg" yn "anaddas ac yn warthus".

Wrth alw am ymchwiliad i'r sylwadau, ychwanegodd Mr Williams bod y drafodaeth yn profi "nad yw deinosoriaid wedi diflannu eto".

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Benfro

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cynghorydd Ceidwadol Aaron Leigh Carey yn cwestiynu'r buddion o agor ysgol gynradd Gymraeg yn Sir Benfro

Wrth ymateb i'r drafodaeth, fe ddywedodd y cynghorydd Jacob Williams y dylai pobl gael yr hawl i "gynnig eu sylwadau... hyd yn oed os nag yw'n nhw'n plesio" a taw "llwybr llithrig" fyddai erlyn pobl am y sylwadau.

Fe wnaeth y Cynghorydd Aaron Carey gyfeirio at y cynlluniau i ariannu ysgolion Cymraeg newydd fel "prosiect vanity Llywodraeth Cymru".

Mae darpariaeth dwy ffrwd ar hyn o bryd yn Ysgol Gelli Aur ond mae cynlluniau ar droed bellach i agor ysgol gynradd gwbl Gymraeg.

Mae Cyngor Sir Penfro yn dweud ei bod nhw'n "edrych ar y sefyllfa" ar ôl y ffrae.