Â鶹ԼÅÄ

Cynnydd yn y galw am boteli llaeth gwydr

  • Cyhoeddwyd
Llaeth

Mae 'na gynnydd yn y galw gan gwsmeriaid am laeth mewn poteli gwydr yn hytrach na rhai plastig, yn ôl dau gwmni cynhyrchu llaeth.

Dywedodd cwmnïau Muller a Cotteswold Dairy wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru eu bod wedi gweld twf yn y galw yn dilyn gostyngiad mewn defnydd o nwyddau plastig.

Mae Gwenda Jones wedi bod yn dosbarthu llaeth mewn poteli gwydr o ddrws i ddrws yn Llanrwst ers 30 mlynedd, ac mae hithau'n dweud fod mwy o gwsmeriaid yn gwerthfawrogi llaeth mewn poteli gwydr erbyn hyn.

Mae ganddi 300 o gwsmeriaid yn Nyffryn Conwy ac mae hi'n dosbarthu llaeth bum diwrnod yr wythnos, gan godi'n blygeiniol am 04:30 er mwyn dechrau ar ei rownd am 06:00 ar ôl llwytho'r llaeth.

Er ei bod yn dweud fod y swydd yn un galed, mae hi'n mwynhau'r gwaith hyd heddiw.

"Pan nes i ddechrau roedd yn rownd yn fach ac roedd nifer y cwsmeriaid yn mynd yn llai ac roedd yn anodd denu cwsmeriaid newydd," meddai.

"Ond yn ddiweddar mae'r gwaith wedi cynyddu ac rwy'n cael cwsmeriaid newydd o hyd. Dwi newydd gael dau'r wythnos yma.

"Mae mwy o bobl yn gofyn am y gwasanaeth achos mae cymaint o sylw ar y teledu am blastig ac mae mwy a mwy yn troi at boteli gwydr o achos hyn."

Cwsmeriaid newydd

Dywedodd y cwmni cynhyrchu llaeth Muller wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru eu bod wedi derbyn 75,000 o gwsmeriaid ychwanegol yn 2019 ac mae 500,000 o gwsmeriaid yn defnyddio eu gwasanaeth dosbarthu poteli gwydr ar hyd y DU ar hyn o bryd.

Disgrifiad o’r llun,

Gwenda Jones ar ei rownd yn ardal Llanrwst

Dyma'r cynnydd mwyaf i'r cwmni ei weld ers dechrau'r gwasanaeth.

Dywedodd y cwmni ei fod wedi gweld cynnydd mewn gwerthiant cynnyrch traddodiadol o gefn ei faniau - cynnyrch fel llaeth, wyau a bara - ond hefyd twf mewn cynnyrch penodol fel llaeth organig.

Rhesymau amgylcheddol

Yn ôl cwmni Cotteswold Dairy maen nhw wedi gweld cynnydd 10% mewn rhai ardaloedd yn y defnydd o boteli llaeth gwydr, a'r gred ydy mai rhesymau amgylcheddol sy'n gyfrifol am hyn.

"Mae'n ymddangos fel bod teuluoedd yn dychwelyd i'r ffordd draddodiadol o dderbyn llaeth ar stepen eu drws fel ymgais i fynd i'r afael â materion amgylcheddol," medd llefarydd.

"Rydym yn defnyddio cerbydau trydan a photeli gwydr, ac mae modd eu hail-ddefnyddio 30-50 o weithiau, felly mae'n fwy cynaliadwy o gymharu gyda phrynu potel blastig mewn archfarchnad."

Dywedodd Gwenda Jones fod Llanrwst yn enghraifft o'r tuedd modern o gwtogi ar blastig, ac mae cam o'r fath yn llesol i'r amgylchedd a'r economi lleol.

Ychwanegodd ei bod yn falch o weld yr "hen draddodiad" yn dychwelyd.