Oriel luniau: Difrod Storm Dennis

Dros yr wythnos ddiwethaf mae cymunedau ar draws Cymru wedi bod yn dygymod ag effaith Storm Dennis.

Fe welodd rhannau o dde Cymru lifogydd sylweddol y penwythnos diwethaf gyda Heddlu De Cymru yn cyhoeddi "digwyddiad difrifol". Y gred yw bod gwerth mis o law wedi disgyn mewn cyfnod o 48 awr yn unig.

Daeth y dinistr wythnos yn unig wedi i Storm Ciara hefyd greu difrod ar hyd a lled Cymru.

Mae'r lluniau yma'n dangos grym y storm ddiweddaraf a dygnwch y cymunedau gafodd eu heffeithio.

Ffynhonnell y llun, GEOFF CADDICK

Disgrifiad o'r llun, Achub un o drigolion Nantgarw a'i chi ar ôl i'r afon Taf orlifo yn sgîl Storm Dennis
Disgrifiad o'r llun, Gardd gefn dan ddŵr yng Nghwmbach, Rhondda Cynon Taf, brynhawn Sadwrn, 15 Chwefror

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Disgrifiad o'r llun, Glaw Storm Dennis yn achosi i'r afon Taf orlifo ym Mhontypridd a'r tai ar Stryd Sion dan ddŵr

Ffynhonnell y llun, GEOFF CADDICK

Disgrifiad o'r llun, Achub pobl a'u cŵn yn Nantgarw

Ffynhonnell y llun, GEOFF CADDICK

Disgrifiad o'r llun, Clwb bowlio yn Ffynnon Taf, i'r gogledd o Gaerdydd

Ffynhonnell y llun, Tracey Newman

Disgrifiad o'r llun, Tŷ dan ddŵr yn Nantgarw

Ymateb Alun Thomas, Newyddion Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru

"Mae'r Taf yn afon nwyfus

Ofnadw o gynhyrfus"

Golygydd Materion Cymreig Â鶹ԼÅÄ Cymru, Vaughan Roderick, atgoffodd ni ar Twitter fore Sul o un o Dribannau Morgannwg yn cyfeirio at rym afon Taf.

Doedd dim angen atgoffa trigolion Pontypridd, Trefforest, Nantgarw a Ffynnon Taf o hynny, wrth iddyn nhw orfod dygymod ag effaith storm Dennis. Fe gododd yr afon i'w lefel ucha' erioed, gan lifo i gartrefi a busnesau.

Ar un adeg ddechrau'r wythnos, roedd dros hanner cant o fusnesau a sefydliadau ynghau ynghanol tref Pontypridd. Erbyn diwedd yr wythnos, roedd rhai o'r rheini wedi llwyddo i ail-agor - i eraill mae maint y difrod yn golygu bydd yn cymryd rhai misoedd i ddod yn ôl ar eu traed.

Ond er y difrod, mae'r wythnos hon hefyd wedi gweld ymdrechion aruthrol gan y gymuned i adfer y sefyllfa.

Erbyn bore Llun, roedd prif stryd Pontypridd yn ferw gwyllt o glirio, gyda loriau yn cludo sgipiau niferus mewn a mas o ganol y dref, wrth i'r gwaith glanhau ddechrau. Fe dyrrodd gwirfoddolwyr o bob cyfeiriad i helpu - i frwsio a chario, i gynnig paned a bwyd. Ac roedd yr arian yn llifo hefyd - mae sawl apêl wedi'u sefydlu arlein, a miloedd wedi cyrraedd y coffrau.

Efallai bod yr afon nwyfus wedi cael y gorau o bobl Pontypridd am gyfnod y penwythnos diwetha', ond mae'r ymdrechion i gael y dref yn ôl ar ei thraed wedi hen ddechrau.

Ffynhonnell y llun, Lee Dainton

Disgrifiad o'r llun, Roedd modd canŵio ar y cae pêl-droed yma yng Nghwmbrân wedi'r llifogydd

Ffynhonnell y llun, BEN STANSALL

Disgrifiad o'r llun, Gwasanaethau brys De Cymru yn achub pobl o'u cartrefi yn Nhrefynwy

Ffynhonnell y llun, BEN STANSALL

Disgrifiad o'r llun, Mae'r arwydd yma yn dweud y cyfan - mewn maes parcio ceir yn Nhrefynwy

Ffynhonnell y llun, Christopher Furlong

Disgrifiad o'r llun, Yng Nghrughywel, cafwyd y llifogydd gwaethaf mewn 40 mlynedd ar ôl i afon Wysg orlifo a dinistrio cartrefi a busnesau. Bu pont y dref ar gau am ddyddiau ar ôl i ran ohoni gael ei difrodi gan lif y dŵr

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Disgrifiad o'r llun, Help llaw i fynd drwy strydoedd Aberpennar

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Disgrifiad o'r llun, Wedi'r dilyw... Rachel Cox yn gweld y difrod i'w chartref yn Nantgarw

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Disgrifiad o'r llun, Mwd tu fewn i gar yn Nantgarw wedi i'r dŵr gilio

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Disgrifiad o'r llun, Tirlithriad ym Mhendyrus, y Rhondda. Roedd yr awdurdodau yn archwilio tomeni glo yn y dyffryn wedi'r storm

Ffynhonnell y llun, GEOFF CADDICK

Disgrifiad o'r llun, Ar ôl i'r dŵr gilio, fe ddechreuodd y gwaith budur o glirio'r mwd a'r llanast - fel yma ym Mhontypridd
Disgrifiad o'r llun, Rhoddion i'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd yng nghanolfan gymunedol y Trallwn, Pontypridd
Disgrifiad o'r llun, Yr ymateb yn Ffynnon Taf wedi i'r gwasanaethau brys alw am ddeunyddiau i helpu y rhai a oedd wedi dioddef yn sgîl y storm

Hefyd o ddiddordeb: