Â鶹ԼÅÄ

Goleudy yng Nghymru'n ysbrydoli ffilm Hollywood

  • Cyhoeddwyd
dafoe a patinson
Disgrifiad o’r llun,

Willem Dafoe a Robert Pattinson sy'n actio ceidwaid y goleudy sydd wedi eu hysbrydoli gan stori o Gymru

Yn y sinema ar hyn o bryd mae ffilm arswyd o'r enw The Lighthouse, gyda'r ddau brif gymeriad yn cael eu portreadu gan Willem Dafoe a Robert Pattinson.

Cafodd ei ffilmo yn Nova Scotia, Canada, ac mae'r stori wedi ei gosod oddi ar arfordir New England, UDA. Ond cafodd sawl ffynhonnell ei defnyddio ar gyfer plot y ffilm.

Cafodd straeon Samuel Taylor Coleridge, Herman Melville a Robert Louis Stevenson eu defnyddio wrth lunio'r ffilm, a hefyd The Light-House, darn olaf o waith Edgar Allan Poe a fu farw cyn ei orffen.

Ysbrydoliaeth arall ar gyfer The Lighhouse oedd digwyddiadau yn Sir Benfro dros ddwy ganrif yn ôl.

Dywedodd cyfarwyddwr y ffilm, Robert Eggers, ei fod wedi clywed am stori Goleudy Smalls, 20 milltir oddi ar arfordir Sir Benfro, a meddwl y byddai'n gefndir diddorol ar gyfer ffilm.

Y ddau Thomas

Cafodd y Goleudy Smalls gwreiddiol ei adeiladu yn 1775-76. Cafodd ei ailadeiladu yn 1861 ac mae'n parhau i sefyll ar yr ynys hyd heddiw.

Mae'r stori Gymreig yn deillio o ddechrau'r 19eg Ganrif pan roedd y goleudy yn cael ei warchod gan ddau ddyn, Thomas Griffith a Thomas Howell.

Disgrifiad o’r llun,

Goleudy Smalls heddiw. Nid dyma'r tro cyntaf i'r hanes fod yn sail i ffilm. Cafodd ffilm arall o'r enw The Lighthouse ei gynhyrchu yn 2016 gyda Mark Lewis Jones a Michael Jibson fel y prif gymeriadau.

Roedd y ddau ddyn yn ffraeo ac yn bygwth ei gilydd yn aml, ac yn ystod storm neu donnau mawr roedd y ddau yn gallu mynd am gyfnodau hir heb gyswllt gyda'r byd tu allan.

Damwain angeuol

Yn 1801 tra roedd y ddau ar ben eu hunain yn y goleudy bu farw Thomas Griffith mewn damwain. Roedd Thomas Howell yn poeni beth i'w wneud â'r corff ac yn meddwl y byddai'n cael ei amau o lofruddiaeth.

Roedd eisiau ffeindio ffordd o gael gwared â'r corff heb godi unrhyw amheuaeth - meddyliai na fyddai ei daflu i'r môr yn gweithio. Felly fe wnaeth arch a rhoi corff Thomas Griffith ynddo, a chlymu'r arch i dŷ ceidwad y goleudy.

Am weddill y gaeaf, fe barhaodd Thomas Howell i warchod y goleudy ar ei ben ei hun. Ar yr un pryd roedd yr elfennau yn chwalu'r arch a olygai bod corff Griffith yn weladwy o dÅ·'r goleudy.

Ffynhonnell y llun, GP Images
Disgrifiad o’r llun,

Willem Dafoe, Robert Eggers (cyfarwyddwr y ffilm) a Robert Pattinson

Wrth i'r tywydd ddinistrio'r arch roedd y corff yn ysgwyd ynddo, gyda braich Thomas Griffith yn edrych fel pe bai'n chwifio nôl a 'mlaen - golygfa roedd Thomas Howell yn ei gweld bob tro edrychai drwy ffenest y tŷ.

Arhosodd Howell ar yr ynys fechan gyda'r corff. Erbyn iddi ddod yn amser iddo roi'r gorau i'r swydd a dod i'r lan doedd ei ffrindiau ddim yn ei adnabod ac roedd wedi colli ei feddwl - ond fe lwyddodd i warchod y goleudy er gwaethaf ei drafferthion meddyliol difrifol.

Yn dilyn yr hanes yma fe benderfynodd yr awdurdodau newid y rheolau - roedd yn rhaid cael tri dyn i edrych ar ôl goleudai, yn hytrach na dau, wedi hyn. Roedd y rheol yma'n sefyll tan yr 1980au, pan ddechreuodd peiriannau awtomatig weithredu goleudai arfordir Prydain.

Hefyd o ddiddordeb: